Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n dweud bod 4,185 o fusnesau lletygarwch Cymru “ar ymyl y dibyn” o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Yn ôl yr arweinydd Jane Dodds, mae ymchwil gan ei phlaid yn dangos bod y busnesau hyn yn wynebu bil ynni o £18.2m unwaith fydd cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben ym mis Ebrill.

Yn ôl yr ymchwil, £4,369 yw’r cynnydd cyfartalog i bob un o’r busnesau hyn, sy’n gymysgedd o dafarnau, bwytai a chaffis.

Bydd y cap ar gostau ynni busnes yn dod i ben ym mis Ebrill, pan fydd rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dalu cyfran fechan yn unig o’r cynnydd mewn biliau ar gyfer busnesau.

Yn ei dro, mae hyn yn golygu y bydd y busnesau hyn yn cael 90% yn llai o gymorth gan San Steffan.

‘Ailfeddwl’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailfeddwl, wrth i fusnesau boeni am fod ar ymyl y dibyn o ganlyniad i’r newidiadau ddaw ym mis Ebrill.

“Mae busnesau di-ri ledled Cymru’n wynebu bod ar ymyl y dibyn eleni,” meddai Jane Dodds.

“Mae ein tafarndai, bwytai a chaffis wedi wynebu cymaint eisoes, bydd pobol yn torri’u calonnau o weld rhagor o niwed i’n strydoedd mawr lleol.

“Mae angen i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau o amgylch fan hyn i odde’r trychineb biliau ynni hwn.

“Rhaid i weinidogion Ceidwadol yn San Steffan beidio aros eiliad yn rhagor.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw arnyn nhw i ymyrryd ac ailfeddwl ynghylch y newid hwn – os nad ydyn nhw, gallem weld miloedd o fusnesau, gan gynnwys tafarndai, bwytai a chaffis yn mynd i’r wal.

“Gallai hyn rwygo calon ein cymunedau.”