Mae Archesgob Cymru wedi datgan ei fod e o blaid annibyniaeth i Gymru.

Daw sylwadau’r Parchedicaf Andrew John wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C neithiwr (nos Iau, Ionawr 26) am ymdrechion yr Eglwys yng Nghymru i geisio helpu pobol sy’n ei chael hi’n anodd yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae wedi datgan ei rwystredigaeth â Llywodraeth Geidwadol San Steffan ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac mae ei sylwadau’n dod wrth i Gomisiwn sydd wedi’i sefydlu o dan arweinyddiaeth yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams ystyried yr opsiynau ar gyfer dyfodol Cymru.

“Mae rhaid i ni edrych, wrth gwrs, ar yr economi, ar faterion eraill, ond ar hyn o bryd dw i’n credu bod pobol sydd yn gofyn am annibyniaeth… wel, dyw’r sefyllfa rydynni wedi’i derbyn gan San Steffan, efallai, ddim wedi bod yn ddigonol.

“Felly dw i yn deall pam maen nhw’n gofyn am annibyniaeth.”

Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn siarad yn bersonol, ac nid ar ran yr Eglwys yng Nghymru wrth leisio’i farn ar fater annibyniaeth.

“Mater cwbl personol,” meddai.

“Dw i o blaid annibyniaeth oherwydd y rhesau dw i jyst wedi’u dweud.”