Dydy Llywodraeth Cymru erioed wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd ar gyfer unrhyw ymweliadau rhyngwladol.
Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford “nad oedd unrhyw ymweliadau Gweinidogol dramor yn ymwneud â defnyddio Maes Awyr Caerdydd”.
Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013, ac ers hynny maen nhw wedi gwario bron i £250m arno.
Daeth i’r amlwg fis Mawrth 2021 mai £15m oedd gwerth ecwiti Maes Awyr Caerdydd.
Wythnos cyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am fuddsoddi rhagor ym Maes Awyr Caerdydd a dileu gwerth miliynau o bunnoedd o ddyledion.
Cynigiodd y Llywodraeth grant o hyd at £42.6m i’r maes awyr, gan ddileu £42.6m o ddyled y sefydliad.
‘Degawd o ddirywiad’
“Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd, er nad ydyn nhw’n trafferthu ei ddefnyddio,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’r llwybrau y mae cwmnïau hedfan yn eu cario o’r maes awyr yn gyfyngedig – sydd ei hun yn fethiant o ehangu’r arlwy o dan Lafur – ond fe allai gweinidogion hedfan i hybiau sydd â hediadau cysylltiedig, felly does dim esgus am beidio ei ddefnyddio.
“O dan Lafur, mae gwerth y maes awyr wedi plymio gan ddwy ran o dair, mae cwmnïau hedfan wedi tynnu allan, ac wedi disgyn ymhell y tu ôl i’w gystadleuwyr rhanbarthol.
“Rydym yn cael addewid o gynllun achub mawreddog, amhenodol gan y Llywodraeth Lafur ond does dim amheuaeth y bydd hwnnw’r un mor ddiddychymyg ac anghyfrifol â strategaeth y ddegawd ddiwethaf o ddirywiad.”