Bydd Pont y Borth yn ail-agor yn rhannol i gerbydau ar ddydd Iau’r wythnos nesaf – dim ond cerbydau sy’n pwyso 7.5 tunnell neu lai fydd yn cael teithio arni.

Cafodd y bont ei chau’n annisgwyl fis Hydref y llynedd, o ganlyniad i broblemau strwythurol oedd yn peri perygl i’r cyhoedd.

Bu cynnydd mewn traffig ar bont gyfagos Britannia oherwydd y cau, a chwyno yn lleol am amseroedd teithio o Wynedd i Fôn a vice versa.

Pont grog yw Pont y Borth gyda’r strwythur yn hongian ar hongwyr (hangers) sydd ynghlwm â chadwyni mawr metel.

Dros yr wythnosau diwethaf mae hongwyr dros dro wedi eu gosod ar y bont grog, er mwyn cynnal y rhai oedd mewn perygl o ildio i bwysau’r bont.

Fe fydd yr hen hongwyr yn cael eu disodli yn yr haf gan rai cwbl newydd, fydd yn gweddu i edrychiad y bont. Ac mi fydd angen cau’r bont eto bryd hynny i gwblhau’r gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau i golwg360 na fydd seremoni i nodi ailagor y bont.

‘Amodau heriol’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters:

“Er gwaethaf yr amodau tywydd heriol, rwy’n falch ein bod wedi gallu cwblhau’r gwaith adfer hynod bwysig a chymhleth hwn ar amser.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol ac i bawb y mae cau’r bont wedi effeithio arnynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma.”

Mae Lee Waters wedi ymweld â’r bont er mwyn gweld y sefeyllfa drosdo’i hun.

Cyhoeddi pecyn cymorth i leihau’r pwysau yn sgil cau Pont Menai

Bydd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, yn ymweld â’r ardal heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 30)