Dyma gyfle arall i fwynhau ysgrif bortread am y diweddar J Elwyn Hughes, yr ieithmon a’r hanesydd bro o Ddyffryn Ogwen, a fu farw’r wythnos yma. Ymddangosodd y darn yng nghylchgrawn Golwg yn 2015, wedi I J Elwyn Hughes ddatgan ei fod yn rhoi’r gorau i’w waith fel golygydd y Cyfansoddiadau ar ôl 30 mlynedd…
Y dyn â’r ddawn drylwyr
Mae J Elwyn Hughes newydd roi Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol i’w wely am y tro olaf – ar ôl 30 mlynedd yn ei olygu.
Y Cyfansoddiadau yn gyson yw un o werthwyr gorau’r flwyddyn. Dechreuodd ar y gwaith o olygu’r gyfrol yn Eisteddfod y Rhyl yn 1985; hyd at 1999 gorchwyl bob yn ail flwyddyn oedd golygu’r gyfrol ond fe aeth yn dasg flynyddol o 2000 ymlaen. Fe fydd wedi golygu 23 cyfrol i gyd.
Does yr un o’i ragflaenwyr wedi golygu cynifer ag ef – Thomas Myrfyn Bassett sydd agosaf ati, gyda saith o dan ei felt.
Fe’i magwyd ym Mraichmelyn, Bethesda ac mae’n byw ym mhentref Bethel ger Caernarfon. Ar ôl y coleg, bu’n Bennaeth yr Adran Gymraeg yn ei hen ysgol – Ysgol Dyffryn Ogwen – ac yna yn Brifathro yno.
Bydd rhai yn troi yn syth at y Rhagair ar ôl prynu’r Cyfansoddiadau i weld pwy sy’n cael pryd o dafod ganddo am anfon eu beirniadaethau yn hwyr neu am beidio â chadw at y gofynion iaith.
“Dw i wedi mwynhau’r profiad,” meddai J Elwyn Hughes am y gwaith golygu. “Dw i wedi manteisio ar gyfarfod ac yn sicr siarad dros y ffôn efo enwogion y genedl, a phobol yn gyffredinol sydd wedi bod yn beirniadu.
“Mae hynny wedi bod yn brofiad hyfryd a dw i wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau drwy siarad a phenderfynu beth sy’n mynd i’r gyfrol ac yn y blaen.
“Cofiwch chi, dw i wedi gwneud ambell elyn mae’n siŵr gen i yn pregethu yn y Rhageiriau yn bur aml.”
Dyw e ddim yn “pastynu’r beirniaid” yn y Rhagair eleni, ond yn hytrach yn sôn am ei ragflaenwyr fel WJ Gruffydd, Geraint Bowen, TH Parry-Williams, Thomas Parry, Stephen J Williams a W Rhys Nicholas.
J Elwyn Hughes yw awdur un o werthwyr eraill gorau’r iaith Gymraeg, sef y llawlyfr hylaw Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu – sydd wedi gwerthu dros 7,000 o gopïau.
Mae’n debyg mai ef yw ein ‘plismon iaith’ mwyaf adnabyddus.
Mae’n dweud bod ganddo “bob hyder” yn ei olynydd, y Dr Gwyn Lewis sydd hefyd yn arbenigwr ar y Gymraeg. “Mae o yn debygol iawn o ymdrechu cystal ag y bo modd i gadw’r safonau,” meddai. “Ac mae angen cadw’r safonau mewn cyhoeddiad cenedlaethol fel hyn yn does?”
Pa mor bryderus yw e felly am safon iaith cystadleuwyr diweddar ac ar y cyfryngau heddiw?
“Mae rhywun yn bryderus pan mae rhywun yn gweld ac yn clywed ymadroddion fel ‘so’ a ‘really’ ac yn y blaen yn digwydd fel cyraints mewn cacen,” meddai. “Rydach chi’n cael pobol yn defnyddio ymadroddion yn syth o’r Saesneg megis ‘ar ddiwedd y dydd’ lle bo gynnon ni ymadrodd cwbl dderbyniol ac arferedig dros y blynyddoedd, nes i’r erthyl yma ddod i’r Gymraeg, sef ‘yn y pen draw’.”
Mae golygu’r Cyfansoddiadau wedi golygu rhwng chwech wythnos i ddeufis o waith ar ddechrau’r haf. “Dau fis y bydda i’n falch o’u cael nhw i ddilyn trywyddau eraill,” yn ôl J Elwyn Hughes.
Bydd yna gyfarfod ar fore Sul cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod o dan gadeiryddiaeth Robin Gwyndaf i anrhydeddu J Elwyn Hughes – lle bydd y golygydd ei hun yn traethu ar y testun ‘Profiadau Golygydd’.
“Mae o’n dipyn go lew o gyfraniad am fod yn rhaid iddo fo roi pethau o’r neilltu am gyfnod go dda bob blwyddyn er mwyn canolbwyntio ar y gwaith yna,” meddai’r Prifardd Ieuan Wyn o Fethesda, sy’n gyn-ddisgybl i J Elwyn Hughes.
“Mae o’n gyfraniad mawr achos y paratoi y mae’n gorfod ei wneud ar gyfer cyfrol mor swmpus. Fedr o mo’i gollwng hi o’i ddwylo heb ei fod o wedi ei golygu hi’n fanwl.
“Mae o’n gorfod ymdrin ag arddulliau gwahanol gan amrywiaeth eang o feirniaid eisteddfodol. Mae golygu yn golygu mwy na golygu iaith – mae’n golygu yn aml iawn rhoi trefn a chydbwysedd i’r testunau mae o’n eu derbyn.”
“Dydi’r gair ymddeol ddim yn fy ngeirfa i”
Ystyrir J Elwyn Hughes hefyd yn arbenigwr ar waith a bywyd yr awdur a’r bardd Caradog Prichard a’i gampwaith Un Nos Ola Leuad. Mae wedi sgrifennu dwy gyfrol am y pwnc – Bro a Bywyd Caradog Prichard a Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad – a bydd galw mawr arno i ddarlithio ar y pwnc ac arwain teithiau llenyddol yn yr ardal.
Mae’n gobeithio gwneud rhagor o waith ymchwil ar hanes Dyffryn Ogwen ac mae Gomer eisoes wedi gofyn iddo am deithlyfr llenyddol.
“Dyna mae’n debyg y maes sydd yn haeddu llawer iawn o fy sylw i ers rhai blynyddoedd bellach, er mai hanesydd amatur llwyr ydw i,” meddai. “Mae yna ddeunydd sy’n apelgar o ran yr elfen ymchwiliol sydd ynof i. O ganlyniad byddwn i’n hoffi gwneud llawer iawn o waith ar hanes lleol.
“Mae yna bobol yn sôn am fy mod i wedi ymddeol. Wel, na – dydi’r gair ymddeol ddim yn fy ngeirfa i.”
Mae yn “ddarlithydd tanigamp” ar bob math o bynciau hanes lleol yn ôl Neville Hughes, o’r grŵp Hogia Llandegai.
“Mae yna fore coffi ym Methesda yma bron bob bore Sadwrn,” meddai, “a bydd John Elwyn yn dod i hwnna ac mi fydd o’n dod â llyfryn bach gwahanol, rhyw 6 neu 8 tudalen a hen luniau seis A4 efo fo.
“Bydd o’n pasio’r llyfryn yma o law i law a bydd pobol yn awchu am gael ei weld o, yn dweud, ‘O, dw i’n cofio hwn a hwn, a hon a hon’ ac ‘yli siop y lle a’r lle erstalwm’. Mae Elwyn yn gofalu ei fod o’n dŵad â’r ffoldar yma efo fo. Mae o’n ddyn hanes lleol yn bendifaddau.
“Mae ganddo fo lond y tŷ o lyfrau. Dw i’n pwyso’n drwm fel un o olygyddion y papur bro ar ei lawlyfrau fo efo’r iaith!”
Bu Neville Hughes, sydd ddwy flynedd yn hŷn na J Elwyn Hughes, yn aelod gydag e ar bwyllgor i roi coflechi ar fur 14 o dai enwogion o gwmpas Dyffryn Ogwen.
“Ro’n ni’n dibynnu llawer iawn ar Elwyn fel hanesydd lleol,” meddai. “Fo oedd yn chwilota i gael yr hanesion, fo oedd yn mynd ynglŷn â’r llechi at Chwarel y Penrhyn ac yn llwyddo i’w cael nhw am ddim, fo oedd yn mynd ar ôl y dyn a oedd yn llythrennu arnyn nhw.
“A’i waith mawr oedd sgrifennu’r llawlyfr ar y bobol yma i gyd. Fo hefyd oedd y prif ddyn yn trefnu cyfarfod lansio’r llyfr yma yn Neuadd Ogwen… ac yn trefnu taith bws rownd yr ardal i gyd fel rhan o’r lansiad a fo oedd yn dweud yr hanes fel oedden ni’n mynd o dŷ i dŷ hyd y daith.”
Yn ôl y Prifardd Ieuan Wyn: “‘Trylwyredd’ ydi’r gair sy’n dŵad i feddwl dyn wrth ystyried gweithgarwch cymdeithasol a chyfrolau J Elwyn Hughes”.
“Mae rhywun yn gweld yn ei gyfrolau o ei fod o’n rhoi pwys mawr ar fod yn drylwyr ei ymchwil,” meddai. “Cymreigiwr a hanesydd lleol o’r radd flaenaf.”