Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Pont y Borth yn ail-agor yn rhannol cyn diwedd wythnos nesaf – newyddion dw i’n siŵr fydd yn cael ei groesawu gan bobol ar Y Fam Ynys a’r tir mawr.

Cafodd y bont ei chau’n annisgwyl fis Hydref y llynedd, o ganlyniad i broblemau strwythurol oedd yn peri perygl i’r cyhoedd.

Sbardunodd hyn gryn dipyn o gwyno gan drigolion lleol ynglŷn â thagfeydd ar Bont Britannia, ac yn enwedig gan bobol ym Mhorthaethwy lle bu busnesau’n dioddef dros gyfnod arferol brysur y Dolig yn sgil cau’r bont.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Ynys Môn wedi bod yn galw am adeiladu trydedd bont ers tro byd, er nad ydw i’n rhagweld y freuddwyd honno yn cael ei gwireddu.

Fodd bynnag, yr hyn dw i yn rhagweld yw bod yna gryn dipyn mwy o gwyno ar y gorwel gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar y bont yn ystod misoedd yr haf.

Ydi, yn ei holl ddoethineb mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn gwneud gwaith newydd ar o bont ar adeg o’r flwyddyn pan mae’r tagfeydd ar eu gwaethaf yn sgil yr ymwelwyr sy’n heidio i’r ardal yna o Gymru dros yr haf.

A beth am ffawd busnesau Porthaethwy? Ar ôl gaeaf anodd, mae’n debyg y byddan nhw’n gorfod dioddef sgil effeithiau’r gwaith unwaith eto dros yr haf.

Mae rhywun yn cael yr argraff weithiau nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried yr elfennau ymarferol hyn wrth wneud eu penderfyniadau.

Maes Awyr Caerdydd ddim digon da

Cafwyd datguddiad anhygoel ddiwedd yr wythnos wrth iddi ddod i’r amlwg nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd ar gyfer unrhyw ymweliadau rhyngwladol.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford “nad oedd unrhyw ymweliadau Gweinidogol dramor yn ymwneud â defnyddio Maes Awyr Caerdydd”.

Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd am £52m yn 2013, ac ers hynny maen nhw wedi gwario bron i £250m arno – er nad yw hynny wedi gwneud llawer o les i’r lle!

Daeth i’r amlwg fis Mawrth 2021 mai £15m oedd gwerth ecwiti Maes Awyr Caerdydd, a dyw a ŵyr faint ydi o erbyn hyn.

Mae’n rhyfeddol bod degawd wedi mynd heibio heb i’r un Gweinidog yn Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r maes awyr ar gyfer unrhyw hediad.

Wedi’r cwbl, mae’n cael ei ddefnyddio’r rheolaidd gan garfan pêl-droed Cymru er mwyn teithio i gemau oddi cartref.

Yn wir, o Faes Awyr Caerdydd wnaeth carfan Rob Page hedfan allan i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd.

Efallai nad yw’r maes awyr yn addas i deithiau’r Gweinidogion hyn, ac os felly ddigon teg.

Ond mewn difrif, os nad yw’r bobol sydd wedi bod yn barod i wario miliynau o bunnoedd ar y lle’n yn ystyried y maes awyr yn addas, pam ddylai unrhyw un arall?