Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal nos Iau (Ionawr 26) i ddathlu llwyddiant y rhwydwaith o Fentrau Iaith yng Nghymru, a’u hamrywiol brosiectau.

Daeth cynrychiolwyr yr holl fentrau iaith, noddwyr gwobrau a beirniaid ynghyd mewn digwyddiad hwyliog yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, i glywed mwy am bymtheg prosiect oedd wedi cyrraedd y rhestrau byrion.

Prosiectau sydd wedi’u cynnal gan y mentrau iaith yn eu cymunedau oedd dan sylw – gweithgareddau mae’r mentrau wedi’u harwain er mwyn sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cymunedau.

Daeth pum menter wahanol i’r brig yn y pum categori:

  • Gwobr Siaradwyr Newydd – MI Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, gyda’u prosiect cerdded i ddysgwyr
  • Gwobr Plant a Phob Ifanc – MI Sir Ddinbych, gyda phrosiect treftadaeth Bocs Trysor
  • Gwobr Cymuned – MI Caerdydd, ar gyfer Tafwyl
  • Gwobr Dylanwadu – MI Conwy, am ddatblygu hyfforddwyr Cymraeg yn y maes gweithgareddau awyr agored
  • Gwobr Grymuso – MI Dinefwr a datblygiad Canolfan Hengwrt

Noddwyr y categorïau oedd Dysgu Cymraeg, IAITH Cyf, RhAG, S4C a Llety Arall.

Wrth gyflwyno’r wobr am y categori ‘dylanwadu’, manteisiodd Elin Maher o RhAG ar y cyfle i annog gweithwyr y mentrau i barhau â’r gwaith da.

“Dydyn ni byth yn gwybod pryd mae ein gwaith da ni’n dwyn ffrwyth,” meddai.

”Weithiau, mae’r dylanwadu yna chi’n gwneud ond yn plannu’r hedyn cyntaf yna, felly mae mor bwysig nad ydyn ni’n colli gobaith.”

“Rydyn ni’n wirioneddol gwerthfawrogi’r gwaith rydych chi’n ei wneud… felly diolch yn fawr i chi i gyd.”

CAMU

Fe soniodd Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy ychydig am effaith y prosiect CAMU yn lleol wrth dderbyn y wobr.

“Mae’n codi ‘nghalon i i weld cymaint o faniau gweithwyr efo enwau Cymraeg ar hyd y lle, gan wybod ein bod ni wedi ariannu rhywfaint o’u hyfforddiant nhw,” meddai.

Cafodd y gwobrau eu creu gan yr artist Rebecca Hardy o Fethesda.

Gwyliwch y seremoni i gael cip manylach ar y prosiectau.