Bydd Plaid Cymru’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fabwysiadu gwelliannau i’r Mesur Streiciau dadleuol fyddai’n amddiffyn hawliau gweithwyr Cymru rhag pwerau Harri VIII “gwrth-ddemocrataidd”.

Bydd y mesur gwrth-streicio yn mynd trwy ei Gyfnodau Pwyllgor a Gweddilliol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Llun, Ionawr 30).

Mae’r mesur drafft yn cynnwys cymal fydd yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth Gymreig heb fod angen mwy o brif ddeddfwriaeth na hyd yn oed ymgynghori â Llywodraeth Cymru, sydd weithiau’n cael eu galw’n bwerau Harri VIII.

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn disgrifio’r ddeddfwriaeth fel “gwrth-weithwyr, gwrth-ddemocrataidd ac awdurdodus”, gan annog holl aelodau seneddol Cymru i gefnogi gwelliannau ei phlaid.

Byddai gwelliant Plaid Cymru yn atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag gallu gwneud gwelliannau ôl-ddilynol i Ddeddf neu Fesur Senedd Cymru – sy’n golygu na fyddai gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw hawl i ymyrryd â gwarchodaeth hawliau gweithwyr Cymru.

Byddai ail welliant gan Blaid Cymru yn mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal asesiad effaith ar effaith y ddeddfwriaeth ar gysylltiadau diwydiannol yng Nghymru, gan gyfeirio’n arbennig at ddeilliannau arfaethedig y Mesur Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd yn y Senedd.

Mae’r mesur gwrth-streiciau yn “tanseilio” Bil Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, yn ôl Liz Saville Roberts.

Ychwanega fod gweithwyr a chymdeithas Cymru yn ehangach eisiau dyfodol lle “rhoddir gwerth ar weithwyr, yn lle cael eu bwlio gan San Steffan”.

‘Hollol wrthgynhyrchiol’

“Ni all ein cymdeithas fwrw ymlaen heb y miloedd o weithwyr sy’n rhedeg ein hysbytai, ein systemau cludiant cyhoeddus, ein hysgolion, ein llysoedd,” meddai Liz Saville Roberts ar drothwy’r ddadl.

“Mae sacio pobol am fynnu tâl teg ac amodau teg am waith teg yn hollol wrthgynhyrchiol.

“Mae mesur gwrth-weithwyr, gwrth-ddemocrataidd ac awdurdodus San Steffan yn mynd yn groes i bopeth rydym ni’n sefyll drosto.

“Mae’n tanseilio’r hawl i streicio ac yn peryglu ein deddfwriaeth i amddiffyn hawliau yng Nghymru.

“Does dim lle mewn cymdeithas fodern ddemocrataidd i’r pwerau Henry VIII honedig sy’n rhoi i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol y pwerau i ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth hawliau gweithwyr ar fympwy.

“Mae Plaid Cymru eisiau creu llwybr gwahanol lle mae gan weithwyr rym a gwerth, yn hytrach na chael eu bwlio gan San Steffan.

“Pan fydd Tŷ’r Cyffredin yn trafod gwelliannau Plaid Cymru heddiw, rwy’n annog holl Aelodau Seneddol Cymru i sefyll gyda ni i amddiffyn hawliau gweithwyr Cymru rhag yr ymosodiadau digywilydd hyn.”