Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi “bob amser yn anochel” y byddai Nadhim Zahawi yn colli ei swydd.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i gadeirydd y Blaid Geidwadol gael ei ddiswyddo am fethu â datgan ei fod e dan ymchwiliad am beidio talu biliau treth.
Yn ôl yr ymchwiliad, roedd y cyn-Ganghellor yn euog o “dorri’r cod gweinidogol mewn modd difrifol” ar ôl cyfaddef yn y pen draw ei fod e wedi talu’r biliau a chosb ychwanegol, oedd yn cyfateb i ryw £5m, i Adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Roedd e wedi cael sawl cyfle i fod yn onest ac agored am y sefyllfa, meddai’r ymchwiliad, oedd yn dweud ei fod e wedi celu’r gwirionedd am dros flwyddyn.
Doedd e ddim ychwaith wedi rhoi gwybod fod y sefyllfa wedi cael ei datrys fis Awst y llynedd, ond roedd e’n mynnu ei fod e wedi bod yn “ddiofal” ond heb weithredu’n fwriadol.
‘Osgöwr trethi’
“O’r diwedd, mae Rishi Sunak [Prif Weinidog y Deyrnas Unedig] wedi diswyddo’r osgöwr trethi Zahawi,” meddai Liz Saville Roberts.
“Roedd ei ymadawiad bob amser yn anochel.
“Mae petruso ac oedi gan Sunak yn dangos nad oes ganddo ddim gafael ar ei lywodraeth – ac nad yw’n dilyn unrhyw gwmpawd moesol.
“Mae’r cyhoedd bellach yn adnabod y Torïaid fel plaid osgoi trethi, sydd wedi’u dal wrthi’n helpu eu ffrindiau i’r pwrs cyhoeddus er elw preifat.”