Mae ymgyrch wedi’i sefydlu yn Awstralia yn gwrthwynebu refferendwm ar sefydlu pwyllgor ymgynghori yn y senedd i gynrychioli pobol frodorol y wlad.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, fyddai’r pwyllgor ddim yn datrys y problemau sy’n eu hwynebu nhw.
Bydd y refferendwm, fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, yn sefydlu Llais yr Aborijini ac Ynyswyr Torres Strait fydd yn gallu rhoi tystiolaeth i’r senedd ar faterion sy’n eu hwynebu nhw, a byddai’r refferendwm yn ychwanegu iaith at gyfansoddiad Awstralia sy’n tynnu sylw at bobol frodorol am y tro cyntaf erioed.
Mae’r ymgyrch sy’n annog y senedd i “gydnabod ffordd well” yn cynnwys rhai lleisiau blaenllaw, ac maen nhw’n galw am sefydlu pwyllgor trawsbleidiol i ganolbwyntio ar hawliau pobol frodorol yn hytrach na’r refferendwm ei hun.
Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn beirniadu gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar yr ymgyrch i sefydlu refferendwm, gan ddweud y gallai’r arian gael ei wario ar gymunedau brodorol.
Does dim modd addasu’r cyfansoddiad heb gynnal refferendwm.
Materion brodorol
Mae pobol frodorol Awstralia’n waeth eu byd na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran mesurau cymdeithasol ac economaidd.
Yn ôl adroddiad gan y llywodraeth y llynedd, fe wnaeth y wlad fethu â chyrraedd hanner eu targedau i wella bywydau pobol frodorol.
Fe wnaeth y rhai sy’n gwrthwynebu refferendwm hefyd ddweud y gallai’r pwyllgor arfaethedig amharu ar y senedd drwy atal deddfwriaeth, ond mae swyddogion y llywodraeth wedi wfftio’r awgrym.
Mae’r Prif Weinidog Anthony Albanese wedi bod yn ceisio cefnogaeth i’r ymgyrch tros refferendwm, ond dim ond wyth refferendwm sydd wedi bod yn llwyddiannus o safbwynt y llywodraeth ers i Awstralia fod yn wlad annibynnol.
Mae’r gefnogaeth o blaid y refferendwm wedi gostwng o 53% i 47%, yn ôl y Sydney Morning Herald fis Medi y llynedd.