Mae pobol sy’n gweithio’n llawn amser yn cysylltu â gwasanaethau digartrefedd yn methu â dod o hyd i le i fyw, yn ôl gweithiwr yn y maes.
Daw hyn wrth i gymdeithas dai Grŵp Cynefin, sy’n gweithio ledled y gogledd, alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad i rewi cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn eu cyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24.
Mae’r gymdeithas wedi dymuno â Chymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru yn yr ymgyrch #MaterionTaiCymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai.
Gwaith Gorwel, sef uned fusnes Cynefin, ydy darparu gwasanaethau i gefnogi pobol sy’n profi cam-drin domestig a phobol sy’n ddigartref neu mewn perygl o golli eu cartrefi.
‘Pobol fregus mewn perygl’
Byddai rhewi’r cyllid yn rhoi’r gwasanaethau hynny dan fygythiad, yn ôl y gymdeithas dai.
“Rydw i wedi gweithio yn y sector yma ers dros ugain mlynedd ac yn gweld pethau na welais i erioed o’r blaen,” meddai Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel.
“Mae pobol sy’n gweithio’n llawn amser yn cysylltu â ni, yn ddigartref.
“Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobol hŷn – pobol sydd wedi gweithio ar hyd eu hoes a heb orfod chwilio am help o’r blaen – yn dweud wrthyn ni bod eu landlord eisiau eu tŷ yn ôl ac na allan nhw ddod o hyd i unrhyw le maen nhw yn gallu ei fforddio.
“Bu ein staff yn gweithio trwy gydol y pandemig i wneud yn siŵr bod gan y bobol yn ein cymunedau oedd yn y sefyllfaoedd mwyaf ansicr ac weithiau peryglus, rywun i droi atyn nhw.
“Mae’r gyllideb ddrafft hon yn rhoi’r bobol fregus yn ein cymunedau mewn perygl ac mae’n dweud wrth fy nghydweithwyr nad ydy eu hymroddiad na’u gwaith yn bwysig.”
‘Lefelau tlodi heb eu tebyg’
Yn ôl dadansoddiad Cymorth Cymru, mae anghysondeb “enfawr” rhwng y galw am wasanaethau a’r cyllid sydd ar gael nawr.
Mae’r ystadegau yn dangos bod dros 8,500 o bobol mewn llety dros dro yng Nghymru, ac mae’r ffigwr hwn yn cynyddu tua 500 bob mis.
Ar yr un pryd, byddai’r gyllideb ddrafft yn golygu bod y cyllid ar gyfer gwasanaethau £18m yn llai, mewn termau go iawn, na’r hyn oedd yn 2012.
Dywed Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Cynefin, eu bod nhw’n gweld lefelau tlodi sydd heb eu tebyg dros y gogledd, a mwy o deuluoedd yn wynebu digartrefedd a cham-drin domestig ar gynnydd.
“Rydyn ni yn deall y sefyllfa anodd mae Llywodraeth Cymru ynddi ond rydw i’n meddwl bod angen i’n holl gynrychiolwyr gwleidyddol ofyn iddyn nhw eu hunain, ydy hi’n dderbyniol i’r bobol dlotaf yn ein cymunedau gael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi’r argyfwng yma.
“Mae rhewi’r cyllid yn ei hanfod yn doriad sylweddol – yn enwedig gyda chwyddiant ar ei lefel bresennol.
“Rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobol i oroesi’r storm ac rydyn ni hefyd am i’n cydweithwyr gael safon byw da yn ogystal.
“Mae’r gyllideb bresennol yn tanseilio’n sylfaenol ein gallu ni i wneud hynny.”
Cydnabod y rôl “hanfodol”
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydnabod rôl “hanfodol” gweithwyr cymorth tai a digartrefedd wrth helpu pobol i fyw yn annibynnol ac i atal digartrefedd.
“I gydnabod hyn, cafwyd cynnydd i gyllideb y Grant Cymorth Tai o £40m yn 2021-22 i £166.763m – cynnydd o fwy na 30%,” meddai.
“Er gwaethaf y pwysau enbyd rydym yn eu hwynebu, rydym wedi cynnal y codiad hwn eleni ac yng Nghyllideb Ddrafft 2023-24.
“Bydd y gyllideb ar atal digartrefedd hefyd yn cynyddu £15m yn 2023-24 – £10m yn fwy na’r hyn oedd wedi’i gynllunio’n flaenorol.
“Mae hyn yn mynd â’n buddsoddiad mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai i dros £207m y flwyddyn nesaf.
“Rydym hefyd yn gwarchod rhaglenni sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol ac yn cefnogi pobol trwy’r argyfwng costau byw, gan gynnwys £18.8m ychwanegol i’r Gronfa Cymorth Dewisol i barhau i ddarparu cymorth ariannol brys i bobol sy’n wynebu pryderon ariannol.
“Rydym wedi gweithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar ein holl adnoddau sydd ar gael gan y bydd ein cyllideb gyffredinol werth hyd at £1bn yn llai y flwyddyn nesaf na chyhoeddwyd yn wreiddiol.”