Ymhlith y sêr fydd yn ymddangos yn y gyfres newydd o Iaith Ar Daith eleni mae’r cyn-bêldroediwr Joe Ledley, ac mae ei fentor Dylan Ebenezer yn dweud y gallai ei ymdrechion ysbrydoli cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg.
Bydd y cyflwynydd chwaraeon yn cyd-deithio ag arwr cwlt Cymru i bob cornel o’r wlad, wrth iddyn nhw ddysgu mwy am hanes Cymru.
Bydd y daith yn gyfle i’r cyn-chwaraewr canol cae roi cynnig ar hynny o Gymraeg mae’n ei dysgu ar y rhaglen.
“Wneith e ddim drwg!” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg am effaith bosib y rhaglen wrth ysbrydoli siaradwyr newydd.
“Roedd Chris Coleman wedi bod ar y rhaglen ac wedi mwynhau’r profiad.
“Fi’n credu bod hwnna wedi helpu i gael rhywun fel Joe Ledley i gytuno i’w wneud e.”
Dod i adnabod llefydd newydd
Yn ogystal â dysgu mwy am y Gymraeg a hanes Cymru, cafodd Joe Ledley gyfle hefyd i ddod i adnabod rhai ardaloedd yng Nghymru sy’n hollol newydd iddo.
“Doedd e erioed wedi bod i Gaernarfon, erioed wedi gweld Llyn Padarn, gweld yr Wyddfa yn iawn ac ati,” meddai Dylan Ebenezer.
“Roedden ni’n cerdded o gwmpas Dolgellau, er enghraifft, ac roedd e’n methu credu’r lle.
“Mae bod gyda rhywun fel’na yn gwneud i chi sylweddoli faint mor arbennig yw’r llefydd yma achos roedd e’n meddwl bod Dolgellau yn edrych fel set ffilm. Ac ro’n i’n meddwl, ‘Ie, mae pwynt gyda fe!’
“Pan dych chi’n cerdded o gwmpas, chi’n meddwl, ‘O ie!’
“Mae’r lle’n anhygoel, ond dych chi jyst yn dueddol o’i gymryd e’n ganiataol pan dych chi’n gyfarwydd â rhywle.
“Ond roedd gweld ei ymateb e i wahanol lefydd yng Nghymru’n ddiddorol iawn, chwarae teg.
“Mae’r rhaglen wedi cael sawl cyfres erbyn hyn ac os ydyn nhw’n gallu denu rhywun fel Joe, fi’n siwr allan nhw ddenu mwy o bobol fel’na o’r byd chwaraeon.”
Y Barry Horns
Rhan o’r profiad ar y rhaglen oedd cael y cyfle i ddysgu chwarae trwmped a chael perfformio gyda’r Barry Horns, sy’n rhan o’r Wal Goch ac yn gyfeiliant i gemau pêl-droed Cymru ers rhai blynyddoedd.
Gyda Joe Ledley wedi ymddeol erbyn hyn, oes dyfodol iddo fe – neu, yn wir, i Dylan Ebenezer – fel aelod o’r band pres yng nghanol y Wal Goch?
Wedi’r cyfan, pwy all anghofio’i ymdrechion mewn parti ar ddechrau Cwpan y Byd wrth ymddangos ar lwyfan gyda’r band pres?!
“Ro’n i’n mynd i ddweud fod e’n well na fi, ond o’n i’n bod yn boléit!” meddai Dylan Ebenezer.
“Ro’n i’n well na fe!
“Doedd e ddim yn wych, ond wnaethon ni gadw fe’n syml, jyst Gwŷr Harlech a gwneud y ‘ba-bas’ yn y canol, y Barry Horns yn chwarae’r bits cymhleth a ni’n camu i mewn gyda’r bits hawdd.
“Un o ffrindiau hyna’ fi oedd yn rhoi gwers i ni, Tomos Williams y chwaraewr trwmped, oedd yn braf.
“Roedd Twm a fi yn yr ysgol feithrin gyda’n gilydd yn Aberystwyth felly roedd cael e mewn yn eitha’ sbesial i fi hefyd achos mae’n un o ffrindiau gorau fi.
“Roedd e wrth ei fodd, ac yn gwybod bo fi’n rybish gyda’r trwmped! Roedd e’n gwybod beth i ddisgwyl.
“Roedd y tîm cynhyrchu eisiau rhywbeth bach mwy cymhleth ond roedd Twm fel, “Na, wnawn ni gadw fe’n syml, yfe?”
Hybu’r Gymraeg ym myd y bêl gron
Ar hyd y daith, un peth sy’n amlwg o ran yr ochr bêl-droed.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’u hagwedd at y Gymraeg wedi bod yn greiddiol ac yn hanfodol i’r cyfan – o sicrhau presenoldeb yr iaith, i’w hyrwyddo hi mewn ffyrdd gwreiddiol, unigryw a naturiol.
“Mae’n anodd credu weithiau gymaint maen nhw wedi gwneud dros y blynyddoedd diwetha’.” meddai Dylan Ebenezer.
“Maen nhw wedi bod yn ddewr iawn mewn ffordd. Dyn nhw ddim wedi poeni am yr ymateb.
“Maen nhw wedi penderfynu, ‘Ry’n ni’n mynd i wneud hyn, bant â ni’.
“Mae popeth wedi bod mor bositif, ac maen nhw wedi’i wneud e mewn ffordd naturiol, dyw e ddim yn teimlo bod e’n cael ei orfodi ar bobol achos mae pobol yn casáu hwnna.
“Dyna’r ffordd waetha’ o drial cyflwyno’r Gymraeg, neu unrhyw iaith am wn i.
“Ond mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi bod mor glyfar, ac wedi’i wneud e mewn ffordd naturiol iawn.
“Mae’r stwff maen nhw wedi’i wneud yn rhyfeddol.
“Fi’n cofio gweld y crysau yna gyda ‘Diolch’ arnyn nhw ar ôl iddyn nhw [gymhwyso ar gyfer Ewro 2016].
“Aethon nhw ’nôl ar y cae, ro’n nhw newydd gyrraedd Ffrainc, ac ro’n i’n credu [bod y crysau Cymraeg] yn fwy o beth na’r gemau!
“O’n i’n methu credu, jyst rhywbeth bach fel’na, a’r chwaraewyr wedyn wedi dechrau siarad Cymraeg.
“Erbyn hyn, maen nhw mor hyderus, yn newid ‘Wales’ i ‘Cymru’, yn cynnal cynadleddau i’r wasg jyst yn Gymraeg, yn hollol hyderus yn beth maen nhw’n gwneud chwarae teg.”
- Darllenwch ragor o’r cyfweliad gyda Dylan Ebenezer yn rhifyn golwg yr wythnos hon (dydd Iau, Chwefror 2)