- Fe dorrodd Golwg y stori am gyhoeddi’r ffilm cyn y Nadolig
Bydd ffilm newydd am hanes sefydlu S4C, a rhan Gwynfor Evans yn yr ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg, yn cyrraedd y sinemâu ym mis Mawrth.
Mae Y Sŵn wedi’i hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones, gyda’r ddau yn gyfrifol am greu Gwledd, ffilm arswyd enillodd wobrau a chynulleidfa eang ar draws y byd.
Ymhlith y cast mae Mark Lewis Jones, Sian Reese-Williams, Rhodri Evan, Lily Beau, Carys Eleri ac Eiry Thomas.
Wedi’i gosod yn 1979, mae Y Sŵn wedi’i hysbrydoli gan y digwyddiadau arweiniodd at sefydlu S4C.
Ar ôl i lywodraeth Margaret Thatcher ddod i rym gyda maniffesto oedd yn addo sefydlu sianel benodol Gymraeg ei hiaith, fe aeth yr Ysgrifennydd Cartref William Whitelaw yn ôl ar ei air a sbarduno protestiadau sifil ar draws y wlad.
Gwrthwynebydd cryf i’r tro pedol oedd Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru, oedd wedi addo y byddai’n ymprydio hyd nes y byddai’n marw oni bai bod y llywodraeth yn cadw eu gair a sefydlu’r sianel.
Fe wnaeth yr addewid gydio yn nychymyg y genedl, gan orfodi’r llywodraeth i weithredu wrth iddyn nhw boeni y byddai trais tebyg i’r hyn oedd yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon yn bosib yng Nghymru pe bai Gwynfor Evans yn marw.
Mae’r ffilm yn adrodd yr hyn ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn yn hanes Cymru mewn ffordd unigryw, gan ddatgelu’r stori drwy bersbectif staff y Swyddfa Gymreig, aelodau craidd Cabinet Margaret Thatcher, ac unigolion oedd yn rhan o’r ymgyrch genedlaethol.
Daw’r ffilm yn fuan ar ôl i S4C ddathlu’r 40 oed, ac mae’n defnyddio digwyddiadau hanesyddol i sbarduno sgyrsiau heddiw am ddylanwad protestio, dyfodol darlledu yng Nghymru a thynged yr iaith Gymraeg.
“Hanfodol” adrodd straeon Cymreig ar y sgrîn fawr
“Mae’n hanfodol ein bod yn adrodd straeon Cymreig ar y sgrîn fawr,” meddai Roger Williams.
“Mae Y Sŵn yn cymryd stori anferth a ddigwyddodd yn ystod ein bywydau ni ac yn dod â hi yn fyw gyda’r bwriad o ddifyrru a dechrau sgwrs o ran ble ydyn ni fel cenedl, a ble awn ni nesaf.”
Mae Roger Williams yn cydweithio unwaith eto â Lee Haven Jones, cyfarwyddwr Gwledd.
“Nid ffilm gyfnod barchus a geir, ond gwaith sydd yn ymgorffori ysbryd punk y ’70au – yn chwareus, yn ffraeth, yn ddeifiol ac yn bennaf oll yn adloniannol,” meddai Lee Haven Jones.
“Ffilm sydd yn olrhain ac yn mentro ailwerthuso hanes diweddar Cymru; sydd yn adrodd y stori o’n safbwynt ni fel cenedl ac ar adegau yn ei hail-ddychmygu!”
Y ffilm arswyd Gwledd yw’r ffilm iaith Gymraeg fwyaf llwyddiannus erioed.
Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl SxSW yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau yn 2021, cyn mynd yn ei blaen i ennill amryw o wobrau mewn gwyliau ffilm megis BiFan yn Ne Corea a Gŵyl Ffilm Neuchatel yn y Swistir.
Fe ddaeth wedyn i sinemâu yn y Deyrnas Unedig ym mis Awst 2021.
Bydd Y Sŵn i’w gweld ar y sgrîn fawr o Fawrth 10.