Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl ganlynol, er mwyn i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, gall Golwg ddatgelu bod gwaith ffilmio wedi cael ei gwblhau ar ffilm sinema newydd am Gwynfor Evans, a’i ymgyrch arwrol i sefydlu’r sianel.
Fe fydd Y Sŵn yn olrhain yr hanes rhwng 1979 – 1980, pan enillodd Margaret Thatcher ei hetholiad cyntaf a hithau wedi addo yn rhan o’i hymgyrch i sefydlu sianel Gymraeg. Ar ôl iddi gael ei hethol, mi wnaeth y Llywodraeth dro pedol a arweiniodd at ragor o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, ac at fygythiad Gwynfor Evans, Aelod Seneddol
Plaid Cymru yn San Steffan, i ymprydio hyd nes byddai’r Llywodraeth yn sefydlu’r sianel.
Y cwmni sy’n gyfrifol am y ffilm yw Joio, cwmni Roger Williams, awdur y gyfres lwyddiannus Bang a’r ffilm arswyd newydd Gwledd, a’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones. Daeth y gwaith ffilmio i ben ddoe.
Mae dros 50 o actorion yn y ffilm, yn camu i esgidiau enwogion fel Gwynfor Evans, yr Ysgrifennydd Gwladol William Whitelaw, a Syr Goronwy Daniel, Is-Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Gymreig.
Ymhlith y cast mae’r actorion Dafydd Emyr, Mark Lewis Jones, Richard Elfyn, Rhodri Meilir, Siân Rees Williams, ac Eiry Thomas. Rhodri Evan sy’n actio Gwynfor ei hun.
“Mae’r ffilm yn olrhain yr hanes o berspectif y cenedlaetholwyr gweision sifil oedd yn y swyddfa Gymreig ar y pryd, a’r gwleidyddion yn San Steffan,” meddai Roger Williams wrth Golwg. “Ry’n ni gyd, fel cenedl, yn ymwybodol o safiad Gwynfor. Ond roeddwn i â diddordeb hefyd yn yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ac yn y Swyddfa Gymreig, achos dw i ddim yn ymwybodol bod yr ochr yna wedi cael ei olrhain o gwbl.
“Roedd diddordeb gyda fi yn y ddadl, a’r dadlau a oedd yn digwydd rhwng Llundain a Chymru. Gan bod rhai o’r sgyrsiau a’r dadleuon yna yn parhau i fod ynglŷn â’r ffordd mae teledu yn cael ei ariannu a’r berthynas rhwng Cymru a Llundain, a’r ffaith bod darlledu ddim wedi cael ei ddatganoli ac yn y blaen. Ro’n i’n teimlo mai’r ffordd orau i ni fel cynulleidfa drafod y pethe hynny oedd drwy ddrama.
“Wrth gwrs, doedd hi ddim wedi cael ei gwneud o’r blaen. Gydag S4C yn dathlu ei phen-blwydd, roedd yn teimlo fel amser priodol i fynd ati.”
Bydd Y Sŵn i’w gweld yn sinemâu Cymru ym mis Mawrth 2023 cyn cael ei darlledu ar S4C. “Ar ôl y llwyddiant y cafodd Lee a fi gyda Gwledd,” meddai Roger Williams, “ry’n ni’n awyddus i sicrhau bod mwy o ffilmiau iaith Gymraeg yn cael eu gweld ar y sgrîn fawr.”
Ffilm yn syniad “gwych,” yn ôl merch Gwynfor
Mae merch Gwynfor Evans yn edrych ymlaen at weld y ffilm ar hanes ei thad, er nad yw hi wedi cael gwybod llawer iawn amdani hyd yma.
“Sa i’n gwybod beth yw’r slant, na phwy siort o sgript yw hi, ond mae unrhyw beth sy’n codi proffil hanes Cymru a’r frwydr genedlaethol yn wych,” meddai Meinir Ffransis.
Cafodd wybod am y ffilm drwy ei chwaer, Meleri, yr oedd y cwmni wedi cysylltu â hi ar ôl i’r actor Eiry Thomas ddangos awydd i wybod rhagor am eu mam, y cymeriad mae hi’n ei phortreadu. Disgrifiwyd y diweddar Rhiannon Evans gan y teulu yn y gorffennol fel ‘craig o gymar’ i Gwynfor.
“Roedd [Eiry] mo’yn portreadu fy mam mor agos â phosib at ei phersonoliaeth, chwarae teg,” meddai Meinir Ffransis. “O safbwynt fy nhad, efallai mai’r ochr wleidyddol a’r ochr ymgyrchydd [oedd bwysicaf].
“Mae hi’n anodd gwneud unrhyw sylwadau pellach heb weld beth maen nhw’n ei ddweud yn y ffilm. Dw i’n disgwyl ’mlaen i’w gweld hi.”