Wrth i Rishi Sunak gymryd yr awenau yn Rhif 10 Stryd Downing ddechrau’r wythnos hon, rydan ni bellach ar ein pedwerydd Prif Weinidog ers i David Cameron ymddiswyddo tros Brexit yn 2016.

Heb os, cyfnod Liz Truss wrth y llyw oedd y methiant mwyaf, ond mae pob un ohonyn nhw wedi’i chael hi’n anodd.