Cyn i Geidwadwyr ddechrau dathlu gormod, mae gan y blogfyd rybudd i Rishi Sunak. Iain Dale, un o brif flogwyr y blaid, sy’n awgrymu pa fath o feirniadaeth sydd o flaen y Prif Weinidog newydd…

“… cafodd ei wrthod gan aelodau’r blaid. Cafodd ei ddirwyo yn Partygate. Fydd y gwrthbleidiau fyth yn gollwng hynna… efallai ei fod wedi darogan yn gywir y byddai Trussonomics yn methu, ond roedd ei berfformiad yn yr etholiad cynharach yn llai na gwych, gyda’r tactegau a’r strategaeth anghywir… yn ogystal, o gofio’r ffaith – ac mae yn ffaith – fod Rishi Sunak wedi benthyca digon o bleidleisiau i ymgyrch Truss i’w chael hi i’r ddau olaf a gwthio Penny Mordaunt allan, mi allech chi ddweud mai ei fai ef oedd holl arbrawf Truss.” (Iain Dale ar iaindale.com)

Dyw John Dixon chwaith ddim yn rhagweld y bydd yn bosib uno’r Ceidwadwyr…

“Mae’r blaid wedi ei rhannu’n anobeithiol i wahanol garfanau gydag un peth yn gyffredin rhyngddyn nhw – casineb dwys at ei gilydd… fydd Johnsoniaid ddim yn maddau i Sunak am, yn eu barn nhw, roi’r gyllell yn eu dyn. Ac mae’r llwybr sy’n cael ei ddilyn gan y Canghellor presennol (a fydd neu na fydd yn y swydd fory) yn gwbl annerbyniol i eithafwyr y farchnad rydd sydd â thorri trethi a bwyellu gwariant cyhoeddus yn fater o ffydd iddyn nhw. A fydd modd rhywsut gwneud polisi’r llywodraeth newydd yn ddeniadol i bleidleiswyr cyffredin – dyw hynny fawr mwy na throednodyn o’i gymharu â’r anhawster o’i gael trwy griw simsan o ASau Torïaidd sy’n poeni yn fwy na dim am eu dyfodol eu hunain.” (borthlas.blogspot.com)

Yn y cyfamser, dyma air o brofiad o Iwerddon, sydd hefyd wedi cael arweinydd o dras Hindwaidd…

“Mae yna ambell debygrwydd gyda Taoiseach cyntaf Iwerddon nad oedd yn wyn, Leo Varadkar, y symudodd ei dad Indiaidd i Iwerddon i weithio yn feddyg. Fel Varadkar, mae Sunak hefyd yn cael ei gyhuddo o fod yn asgell dde, ond mae gan y ddau gymeriad llawchaidd, rhwydd sydd fel petai’n tynnu’r gwynt o hwyliau unrhyw feirniadaeth. Os na wnaiff lanast ofnadwy, mae’n debyg y bydd Sunak yn sadio llong y Ceidwadwyr. Bydd yn fwy o her i Keir Starmer na’r anobeithiol Liz Truss. Neu bydd ymladd mewnol y Blaid Geidwadol yn parhau a byddan nhw’n hunan-ddinistrio a bydd galwadau am etholiad cyffredinol yn anos eu hanwybyddu.” (Brian O’Neill ar sluggerotoole.com)

Ac, er lles yr Alban, mae Dafydd Glyn Jones eisio gweld Rishi Sunak yn llwyddo… o leia’ ddigon i atal Llafur rhag cael gormod o fwyafrif…

“… [y] peth gorau fyddai bod y llywodraeth Dorïaidd hon yn cael ei thraed dani am y tro, bod pethau’n sefydlogi rhyw gymaint, a’n bod yn dychwelyd at dipyn o ‘wleidyddiaeth ddiflas’… nid da bod yr un o’r ddwy brif blaid Brydeinig filltiroedd ar y blaen i’r llall, a bod trwy hynny yn ddewis rhwydd ac amlwg i’r unoliaethwyr Albanaidd sydd am bleidleisio’n dactegol yn erbyn yr SNP. Gadewch iddi wastatáu rhyw dipyn rhwng Tori a Llafur, gyda’r ddwy yn setlo tua chanol yr ugeiniau yn yr Alban. Yng Nghymru, nid yw affliw o bwys, a chaiff Lloegr wneud fel y mynn.” (glynadda.wordpress.com)