Dros 200 mewn practis cyntaf côr newydd. Ac mae croeso i ragor ymuno…


Roedd yna groeso cynnes yn ymarfer cyntaf Côr yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon nos Sul. Côr Gwerin yr Eisteddfod hynny yw, nid Côr y Gymanfa, sy’n dechrau ar eu hymarferion nos Sul yma, yn digwydd am yn ail.

Fe fydd y Côr Gwerin newydd yn gweithio gyda’r siwpyr-grŵp gwerin swynol, Pedair – sef Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Siân James. Hefyd yn helpu’r côr fydd yr arweinydd profiadol Sian Wheway a’r cyfeilydd a’r athro cerdd Alwena Roberts. Drîm tîm i unrhyw ffan gwerin a cherdd dant.

Fe fydd y Côr a Pedair yn perfformio yn enw’r ‘Tŷ Gwerin yn y Pafiliwn’ ar Faes yr Eisteddfod ym mis Awst yn y cyngerdd ‘Y Curiad – Ddoe, Heddiw, Fory’. Dyna’r bwriad ta beth!

Roedden ni wedi cyrraedd y neuadd yn weddol brydlon, tua deng munud i chwech. A’r hyn a’n trawodd ni’n syth – rhai ohonon ni wedi bod yn aelodau o gôr yn lled ddiweddar, eraill heb fod mewn côr ers rhai blynyddoedd – oedd bod yna ddynion yna. Rhyw ddeg i bymtheg o denoriaid a baswyr yn y canol, a’r rheiny i gyd yn eu seddi cyn i’r holl ferched orffen llifo drwy’r drws. Am braf fydd cael canu yng nghwmni dynion. Er bod yna gorau cymysg mae rhywun yn teimlo ein bod wedi ein gwahanu braidd yn y byd corau yma.

Ar ôl i Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod, gymryd ein henwau wrth y drws, aeth pawb i chwilio am seddi. Roedden nhw wedi gosod tua phedair rhes o ugain sedd ond roedd nifer y rhesi wedi dyblu bron erbyn i bawb eistedd. Soniodd rhywun ar y diwedd bod yna 101 ddim ond o altos!

Daeth Elen Elis, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, i roi gair o groeso bywiog ac egluro y bydd yr ymarferion yn pendilio bob pythefnos rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mae ardal Arfon yn rhan o’r Eisteddfod eleni, er mai draw ym Moduan y bydd y brifwyl ddechrau Awst.

Ymarfer cyntaf Côr Pedair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Ymarfer cyntaf Côr Pedair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

Braint

Fel cyn-aelod o Gôr yr Heli Pwllheli, gafodd ei ffurfio gan Gwenan Gibbard ac Alwena Roberts ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant Llyn ac Eifionydd 2016, y dynfa yn bersonol oedd cael gweithio gyda’r ddwy yma eto.

Da o beth yw y bydd llawer mwy o gantorion amatur yn cael y profiad o wylio’r cydweithio effeithiol, ffraeth a phroffesiynol sy’n digwydd rhyngddyn nhw mewn ymarferion. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn ffodus ac yn graff yn eu bachu ar gyfer y côr gwerin. Mae Gwenan yn athrylith yn y maes gwerin, yn rhoi’r un parch yn union i’n traddodiad caneuon gwerin cyfoethog ni ag y mae arweinyddion byd-enwog yn ei roi i gyfansoddwyr clasurol gorau’r byd.

Ond mae doniau tri aelod nodedig arall Pedair hefyd yn y pair, a doniau’r arweinydd Sian Wheway, arweinydd Côr Dre Caernarfon a Chôr Meibion Dyffryn Peris (a chyn-aelod o grŵp pop poblogaidd ’nôl yn yr 1980au, Pryd Ma’ Te). Fe fydd hi’n anrhydedd cael canu addasiadau o ganeuon Pedair, a threfniant o gân J Glynne Davies, awdur enwog caneuon Fflat Huw Puw, ymysg pethau eraill.

Mewn dwyawr, roedden ni wedi bod drwy dalpiau go lew o’r tair cân oedd wedi eu hargraffu’n dwt ar gopïau glân gan yr Eisteddfod. Gwibiodd yr amser heibio fel y gwynt, ac mi wnaethon ni hyd yn oed lwyddo i anghofio am ychydig funudau bod camerâu Heno yno’n ein ffilmio o’r gornel ar gyfer y teledu.

Dyma ddechrau ar y canu felly. ‘Www-www…’

Mae’n dal yn bosib i chi ymaelodi â’r côr.