Mae’r Eisteddfod wedi ymddiheuro am fod eu gwefan wedi ‘crashio’ bore ma – oherwydd bod cynifer o bobol yn ceisio archebu lle carafán ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

O 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Chwefror 1), roedd modd i bobol archebu lle carafán drwy eu gwefan ar gyfer wythnos y brifwyl, sy’n digwydd eleni ar gyrion pentref Boduan, tua phedair milltir o Bwllheli, rhwng Awst 5 a 12.

“Mae cymaint wedi ceisio cysylltu i archebu carafán fel bod ein gwefan wedi mynd ar streic am ychydig funudau,” meddai’r Eisteddfod ar eu cyfrif Facebook.

Yn y sylwadau, dywedodd rhywun nad oedd hyn “wir yn deg” i’r rhai nad oedden nhw ar Facebook, gan ddweud bod “rhaid cael system well erbyn blwyddyn nesaf, er tegwch i bawb”.

Ymateb yr Eisteddfod

“Mae’r wefan yn arwain pobol yn syth i mewn i’r system bwcio,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth ymateb.

“Cymaint o alw fel bod y ‘server’ allanol wedi ‘crashio’.

“Ymddiheuriadau am hyn – rydyn ni’n gwybod ei fod o’n rhwystredig – mae’n rhwystredig iawn i ni hefyd.”

Hefyd ar gael heddiw mae ffurflen gais i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, a chyfle i archebu stondin ar y Maes a Sesiynau yn y pebyll Cymdeithasau.