Mae Gwasg Gomer yn Llandysul wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Printweek am Argraffwyr Llyfr y Flwyddyn ym Mhrydain.

Pwrpas y wobr yw arddangos y llyfrau gorau gafodd eu hargraffu a’u rhwymo yng ngwledydd Prydain yn ystod 2022, ac yn eu plith mae nifer o lyfrau gafodd eu cynhyrchu gan Wasg Gomer ar gyfer rhai o gyhoeddwyr mwya’r Deyrnas Unedig.

Mae’r rhain yn cynnwys yr Academi Frenhinol, y Gymdeithas Ffolio a nifer o amgueddfeydd enwocaf y wlad.

Yn dilyn cyfnod o ailstrwythuro, mae’r cwmni sy’n cyflogi 55 o bobol bellach yn canolbwyntio’n llwyr ar argraffu a rhwymo llyfrau, gyda chynlluniau ar gyfer twf pellach.

‘Yma o Hyd’

“Mae argraffu yn gofyn am fuddsoddiad cyson i aros yn gystadleuol ac mae’r blynyddoedd diwethaf yn Gomer wedi bod yn gyfnod prysur,” meddai Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer.

“Rydym wedi gosod offer newydd i uwchraddio ein rhwymwr, adeiladu estyniad i’r ffatri, a hyd yn oed gorchuddio ein to gyda 200 o baneli solar i leihau ein hallyriadau carbon yn ogystal â chostau ynni.

“Yr ychwanegiad mwyaf diweddar oedd peiriant sy’n gallu argraffu yn uniongyrchol ar ymylon llyfrau, rhywbeth sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer rhifynnau arbennig a phrosiectau unigryw.

“Rydym yn ffodus bod gennym nifer o gwsmeriaid ffyddlon ynghyd ag enw da am gynhyrchu llyfrau o ansawdd ac er bod nifer sylweddol o lyfrau’n parhau i’w cael eu hargraffu yn Ewrop a’r Dwyrain Pell, rydym ni “yma o hyd”, yn chwifio’r faner dros Gymru a’r Deyrnas Unedig.”