Wel, mae’r Saith Seren wedi bod ar agor ers 11 mlynedd bellach, ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ar Ionawr 27, cafodd parti pen-blwydd i’r Saith Seren, yn y Saith Seren, i ddathlu 11 mlynedd ers ei hagor, ac mi roedd hi’n noson arbennig.
Mae hi wedi bod yn sleigh-ride ddigon garw i’r fenter gymunedol gydweithredol dros yr 11 mlynedd diwethaf, ac ar un adeg roedd pethau’n edrych yn ddigon llwm wrth i’r tîm o wirfoddolwyr oedd yn ei chynnal gyhoeddi y bysa hi’n gorfod cau. Ond cafodd ei hachub gan ymgyrch codi arian ‘cyllid torfol’ ar y funud olaf.
Ac mae pethau’n ddigon heriol ar hyn o bryd hefyd, wrth i gostau tanwydd a nwyddau ddringo, gan effeithio ar gostau rhedeg y lle, tra bod costau byw brawychus yn golygu bod y cyhoedd hefo llai o bres i’w wario ar fynychu digwyddiadau a hyd yn oed i fynd allan am beint.
Ond fe ddaeth pawb at ei gilydd i ddathlu penblwydd y Saith Seren, ac mi roedd y dafarn yn llawn…yn enwedig wrth y bar!
Roedd hi’n brysur wrth y bar!
Côr Meibion Rhosllannerchrugog
Yr adloniant gafodd ei drefnu ar y noson oedd Côr Meibion Rhosllannerchrugog – felly un o gorau’r ddinas. A rhaid cyfaddef, dyma’r math o content I’m here for. Rwy’ wrth fy modd hefo corau yn gyffredinol, ac yn enwedig corau meibion… ac ar ben hynny, unrhyw beth sydd o Rosllannerchrugog, sef pentref teulu fy nhad.
Ac o, wir yr, mi roedden nhw’n on form y noson honno! Cafodd caneuon Cymraeg eu canu, gan gynnwys ‘Calon Lân’ gan ein hannog ni i gyd i ymuno a chyd-ganu… ac na, ches i ddim footage o hynny achos roeddwn yn rhy brysur yn canu fy hun!
Cafodd caneuon eraill eu canu hefyd, gan gynnwys ‘African hymn’.
Cafodd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ei chanu, a meddyliais eu bod nhw wedi darfod. Ond wedyn fe wnaethon nhw ganu ‘Yma o’r hyd’, ac esboniais wrth fy ngŵr arwyddocâd y gân hon, a’u bod nhw be debyg nawr wedi darfod.
Ond mi roedd yna rywbeth yn yr aer, fel pe nai bai neb ohonom mo’yn i’r noson ddarfod…
Cyd-ganu
Er bod rhai o’r côr ac eraill wedi dechrau gadael, roedd rhai wedi aros ar y llwyfan yn siarad ac yn dechrau canu’n ddigymell. Yna, roedd hi fel ton yn llifo trwy’r dafarn, gan ennyn cyd-ganu gan bron pawb oedd yn yr adeilad.
Bu’r caneuon cyd-ganu yn amrywiol, gan gynnwys ‘Sloop John B’ gan y Beach boys! Erbyn meddwl, mae hon yn gân sy’n aml yn cael ei chyd-ganu, yn enwedig gan dimau chwaraeon; mae gen i atgof niwlog o’i chyd-ganu yn yr undeb myfyrwyr a thafarnau eraill Lerpwl, nôl yn fy nyddiau rygbi yn y coleg…
Llwyddais i gael bach o footage o hyn.
Hiraeth ac ysbryd y dyddiau a fu
Wnaeth yr holl noson fy atgoffa o nosweithiau partïon cymunedol fy mhlentyndod – ryw naws o gyfeillgarwch a chymuned, gyda themâu cyfarwydd, megis raffl (gafodd ei thynnu gan Osian, a’i darllen wedyn gan ei dad, Chris Evans, cadeirydd presennol y Saith Seren.
Mi roedd yn noson i’w chofio, ac mi fyddaf yn trysori’r atgof melys hwn trwy’r flwyddyn… tan y parti y flwyddyn nesaf!