Bydd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, yn ymweld â Phont Menai heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 30), wrth iddo gyhoeddi pecyn cymorth i leddfu’r pwysau ar drafnidiaeth a theithwyr yn sgil cau’r bont wrth i bobol deithio i mewn ac allan o Ynys Môn.

Bydd y Dirprwy Weinidog, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o gynghorau Gwynedd a Môn i drafod gwaith cynnal a chadw pwysig.

Mae’r pecyn newydd, sydd wedi’i greu mewn partneriaeth â UK Highways A55 Ltd a Chynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd, yn cynnwys ystod helaeth o fesurau, gan gynnwys parcio am ddim, datrysiadau i wella llif y traffig, mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol i gefnogi’r bobol mae’r penderfyniad i gau’r bont yn effeithio arnyn nhw.

O Ragfyr 1, bydd modd parcio am ddim mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac yn y ddau safle parcio a rhannu drwy gydol mis Rhagfyr a Ionawr.

Caiff y cymorth ymarferol hwn ei ddarparu i helpu busnesau lleol sy’n dibynnu ar fasnach dros gyfnod y Nadolig ac i leihau nifer y cerbydau sy’n dymuno croesi A55 Pont Britannia.

Bydd hefyd yn gwella amser teithio i’r rheini sydd am deithio i Ynys Môn ac oddi yno.

Mae’r camau hyn wedi’u cymryd yn ogystal â gosod arwyddion sydd eisoes yn eu lle.

I gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys ar ôl i’r bont gau, mae’r Cyngor wedi darparu arosfannau ychwanegol yn nes at Bont Menai er mwyn caniatáu i’r cyhoedd deithio ar fws a cherdded dros y bont yn lle eu bod o bosib yn aros mewn traffig ar yr A55.

Mae’r Cyngor hefyd yn defnyddio trafnidiaeth gymunedol i helpu’r cymunedau mwy gwledig mae’r penderfyniad i gau’r bont wedi effeithio arnyn nhw.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn ystyried llwybrau teithio llesol er mwyn caniatáu i feicwyr ddefnyddio ‘beiciau llogi’ i bobol o bosib gael eu defnyddio ym Mhorthaethwy a Bangor.

Cafodd cynllun wrth gefn y gwasanaethau brys ei ddatblygu i ddefnyddio Pont Menai pan fydd yr A55 Pont Britannia ar gau, a chafodd y gatiau ar y bont eu gosod er mwyn caniatáu mynediad brys ar draws y strwythur yn ystod digwyddiadau eithafol iawn yr wythnos diwethaf.

‘Deall rhwystredigaethau, anghyfleustra ac aflonyddwch’

“Rydym yn deall rhwystredigaethau pobl a’r anghyfleustra a’r aflonyddwch a achosir i’r gymuned leol,” meddai Lee Waters.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda UK Highways A55 Ltd ac awdurdodau lleol i gyflwyno’r mesurau hyn i helpu i leddfu pryderon pobol a sicrhau cyn lleied â phosib o aflonyddwch wrth i’r gwaith hanfodol barhau ar Bont Menai.”

Yn ôl Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, “mae Pont Menai yn borth hanfodol i ganol y dref” ym Mhorthaethwy.

“Rydym yn falch o weld y mesurau cymorth hyn yn cael eu cyflwyno heddiw,” meddai.

“Ers cau Pont Menai, rydym wedi bod yn gryf o blaid rhoi cymorth i fusnesau lleol.

“Mae Pont Menai yn borth hanfodol i ganol y dref.

“Rydym yn obeithiol y bydd y set hon o fesurau yn mynd rhywfaint o’r ffordd i helpu i gefnogi busnesau lleol sydd wedi nodi gostyngiad mewn masnach ers cau’r bont.

“Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi’r canlyniadau o arolwg ar-lein diweddar sydd wedi’i rannu gyda busnesau lleol.

“Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i barhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru o ran cymorth pellach, os oes angen, drwy gydol y cyfnod cau.

“Mae Porthaethwy ar agor yn llwyr i fusnesau ac rwy’n annog trigolion ac ymwelwyr i ymweld â’r dref a chefnogi busnesau lleol yn yr ardal.”