Mae gwrthbleidiau’r Senedd wedi cyflwyno dadl yn galw am sefydlu pwyllgor i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn meysydd sydd heb fod yn rhan o ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig.
Bydd y ddadl, sydd i’w chynnal heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 30), yn galw am bwyllgor i adnabod pa faterion yn ymwneud â phenderfyniadau Covid-19 Llywodraeth Cymru fydd ddim yn rhan o Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, ac yna’n mynd ymlaen i gynnal ymchwiliad manwl i’r meysydd hynny.
Daw’r galwadau mewn ymateb i sylwadau’r Farwnes Hallett, cadeirydd Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, a ddywedodd ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad na fydd ei hymchwiliad yn ymdrin â phob mater Cymreig na phob penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd hyn nifer o’r pryderon sydd wedi cael eu codi gan Blaid Cymru a’r grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru ers dros flwyddyn.
‘Annerbyniol’
“Hyd yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael craffu ar ei phenderfyniadau ei hun i Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
“Mae hyn yn annerbyniol.
“Ers dyddiau cynnar y pandemig, mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylid cynnal ymchwiliad penodol i Gymru, gyda phenderfyniadau wedi’u gwneud yng Nghymru yn cael eu craffu’n iawn yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi dadlau na all un ymchwiliad yn y Deyrnas Unedig o bosib adlewyrchu penderfyniadau datganoledig yn iawn, pryderon a gadarnhawyd ar ddiwrnod cyntaf Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, pan bwysleisiodd y cadeirydd na fyddai’n bosib talu sylw i bob mater, na chwaith galw pob tyst yn ymwneud â phenderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru.
“Mae gadael penderfyniadau heb eu craffu neu eu craffu’n annigonol yn gwneud cam â phobol Cymru, yn enwedig i’r rhai a weithiodd mor galed ar y rheng flaen, y rhai a gollodd anwyliaid a’r rhai sy’n dal i ddioddef gyda Covid hir.
“Mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru ar Covid, penderfyniadau da a drwg.
“Dyna sut byddwn ni’n dysgu gwersi am beth oedd yn gweithio’n dda a beth oedd ddim.
“Wrth alw am sefydlu’r pwyllgor hwn ochr yn ochr ag Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig, mae Plaid Cymru a’n cyd-wrthbleidiau yn dweud y gallwn ac y dylen ni graffu ar y penderfyniadau hynny.”
“Dewis peidio” â chynnal ymchwiliad
“Rydym yn croesawu’r weithred hon gan y gwrthbleidiau,” meddai’r teuluoedd sy’n galaru.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cael pob cyfle i gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru ond wedi dewis peidio.
“Ceisiodd y Prif Weinidog ein perswadio mai cael Cymru yn rhan o Ymchwiliad y Deyrnas Unedig oedd y peth cywir er gwaethaf yr holl benderfyniadau datganoledig.
“Fodd bynnag, ni all Ymchwiliad y Deyrnas Unedig ymdrin â’r materion yng Nghymru yn fanwl ac yn y modd y dywedodd ei fod eisiau.
“Yr unig peth rydym ni wedi ei heisiau yw i’r hyn a aeth o’i le i’n hanwyliaid gael ei gydnabod ac i wersi gael eu dysgu.
“Mae ein pryderon am Ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn dod yn wir ac nid yw’r Prif Weinidog wedi herio hyn.
“Yn y pen draw, rydyn ni’n haeddu ymchwiliad penodol i Gymru sy’n cael ei arwain gan farnwr.
“Yn anffodus, mae hyn wedi cael ei gwrthod yng Nghymru, felly bydd y pwyllgor hwn o leiaf yn helpu i sicrhau rhywfaint o graffu manwl ar Gymru na fydd Ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn edrych arno.”