Bydd gradd C mewn TGAU Cymraeg neu Saesneg, ac C mewn Mathemateg yn ddigon i ddod yn athro yng Nghymru o hyn ymlaen.

Fel rhan o gyfres o newidiadau i annog rhagor o bobol i ddod yn athrawon, fydd dim rhaid i ddarpar athrawon ennill gradd B mewn Cymraeg a/neu Saesneg a Mathemateg mwyach.

Wrth gyhoeddi’r newid, dywed Llywodraeth Cymru fod gradd B yn cael ei hystyried yn “rhwystr diangen rhag addysgu”.

Mae’r newid yn golygu bod gofynion yng Nghymru bellach yr un fath â gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

Ynghyd â hynny, bydd strwythur taliadau newydd yn dod i rym i gefnogi darpar athrawon ôl-raddedig yn ystod yr argyfwng costau byw.

Byddan nhw’n cael swm mwy o arian ar ôl eu tymor cyntaf yn hytrach nag ar ddiwedd eu cyfnod sefydlu o hyd ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd nifer y lleoedd TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) cyflogedig yn cynyddu o 120 i 160 ar gyfer 2023/24, i’w defnyddio gydag addysg gynradd neu uwchradd.

Pwrpas y TAR cyflogedig ydy helpu i ddileu’r rhwystrau fel bod pobol yn gallu cynnal eu hymrwymiadau presennol, gan gynnwys cyflogaeth ac incwm, wrth iddyn nhw astudio i fod yn athrawon.

‘Dileu’r rhwystrau’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, ei fod yn cyhoeddi’r newidiadau er mwyn cefnogi’r rhai sydd eisoes yn hyfforddi ac i helpu i ddenu rhagor o bobol i’r proffesiwn.

“Gyda’n cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i faes addysg yng Nghymru ac yn amser da i bobl ymuno ag ef,” meddai.

“Rwy’n benderfynol o ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag addysgu fel y gallwn roi’r addysg orau bosibl i ddisgyblion, yn enwedig mewn pynciau blaenoriaeth lle mae’r mwyaf o alw am athrawon newydd.”