Dydy’r gostyngiad yn nifer y bobol sy’n ystyried eu hunain yn Gymry “ddim yn newid ryw lawer” i’r mudiad annibyniaeth, medd Prif Weithredwr YesCymru.

Yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2021, 55.2% o boblogaeth y wlad sy’n ystyried eu hunain yn Gymry, i lawr o 57.5% yn 2011.

Wrth ystyried rhan hunaniaeth a’r ymdeimlad o Gymreictod yn yr ymgyrch annibyniaeth, dywed Gwern Gwynfil ei fod yn llawer llai pwysig nawr nag y bu.

Mewn byd rhyngwladol, mae’n rhaid cymryd agweddau rhyngwladol, meddai, ac mae hynny’n cynnwys agweddau tuag at hunaniaeth.

Mae ffactorau eraill, megis meithrin tystiolaeth i gefnogi dadleuon o blaid gadael y Deyrnas Unedig, yn chwarae rhan hefyd.

‘Ddim yn newid llawer’

Rhwng 2011 a 2021, gostyngodd nifer y bobol yng Nghymru sy’n ystyried eu hunain yn Gymry o 1.8m i 1.7m, ac ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili mae’r canrannau uchaf.

Sir y Fflint, Sir Fynwy a Phowys sydd â’r canrannau isaf o bobol sy’n gweld eu hunain fel Cymry.

Dim ond 18.5% o bobol sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn unig, ond mae’r ffigwr i fyny ryw ychydig o 16.9% ers degawd yn ôl.

Gwern Gwynfil

Ac mae cynnydd bach hefyd o 1% yn nifer y bobol sy’n arddel y ddau genedligrwydd – i fyny o 7.1% yn 2011 i 8.1% yn 2021.

“Dw i’n gwybod bod yna rywfaint o adrodd am fod y nifer o’r bobol sy’n cydnabod eu hunain fel Cymry yng Nghymru wedi disgyn rywfaint, ond mae e wedi disgyn cyn lleied dyw e ddim yn ystadegol swmpus,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, wrth golwg360.

“Y gwir yw bod dal 1.7m o bobol yng Nghymru yn gweld eu hunain yn Gymry, ac mae ryw 200,000 arall tu allan i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi’n agos i ddwy filiwn ohonom ni sy’n cydnabod ein hunain yn Gymry cyn unrhyw beth arall – a dyna be’ sy’n bwysig.

“O’n safbwynt ni, mae hynny’n gwneud ni’n genedl. Rydyn ni’n genedl o Gymry, ac mae’n agos i ddwy filiwn ohonom ni yn y Deyrnas Unedig.

“Wrth gwrs, beth dyw’r Cyfrifiad ddim yn cyfrif, achos dyw e ddim yn un o’r cwestiynau, yw’r bobol hynny sydd yn symud i fyw i Gymru, sydd ddim yn gweld eu hunain yn Gymry, ond yn parhau i fod yn gefnogol i Gymru fel cenedl.

“Mae yna nifer helaeth ymhlith ein haelodaeth ni sydd ddim yn gweld eu hunain yn Gymry drwy enedigaeth neu dras, ond maen nhw’n teimlo’n gefnogol iawn i Gymru annibynnol.

“Dw i ddim yn teimlo bod y ffigurau yn y cyfrifiad yma’n newid ryw lawer o safbwynt hynny.”

‘Edrych allan gyda breichiau lledagored’

Mae Gwern Gwynfil yn cydnabod fod diwylliant ac ymdeimlad pobol yn bwysig yn yr ymgyrch annibyniaeth, ond fod hunaniaeth yn “llawer llai pwysig nawr nag y buodd”.

“Ond inclusivity yw’r peth i YesCymru a Chymru, ac fel gwlad annibynnol yn yr oes ddigidol mae’r elfen o genedlaetholdeb yr ugeinfed ganrif yna, sy’n aml â nifer o gysyniadau gweddol tocsig… dyw hwnna ddim wir yn bodoli yn yr oes ddigidol,” eglura.

“Mae’r byd wedi newid, mae gan bawb smartphone yn eu poced, rydyn ni’n fyd cyfangwbl ryngwladol nawr.

“Mewn byd rhyngwladol, mae’n rhaid cymryd agweddau rhyngwladol ac mae hynna’n cynnwys ynglŷn â’n hunaniaeth.

“Ie, ddylen ni fod yn falch iawn ein bod ni’n Gymry, dylen ni fod yn falch o’n diwylliant a’n cefndir ond ddylen ni hefyd fod yn edrych yn allanol drwy’r amser gyda’n breichiau’n lledagored.”

Er bod yna oblygiad ar YesCymru i wneud ymchwil ac adeiladu’r achos o blaid annibyniaeth, dylai fod llawer mwy o bwysau ar unoliaethwyr i greu dadl hefyd, yn ôl Gwern Gwynfil.

“Dylai bod llawer mwy o bwysau ar ochr arall y ddadl, yr unionists, i greu dadl gref ynglŷn â sut mae’r undebaeth yna’n cyfrannu tuag at sefyllfa well i Gymru a phobol Cymru,” meddai.

“Ar hyn o bryd, dyna i gyd rydyn ni’n ei weld yw bod e ddim yn gweithio i Gymru. Cymru yw un o’r ardaloedd tlotaf yn y Deyrnas Unedig, mae gyda ni fwy o blant mewn tlodi nag unrhyw le arall, mae llawer o gyfleoedd i’r plant yna yng Nghymru.

“Dyw hwnna ddim wedi newid ers degawdau, os nad canrifoedd.

“Dyw e ddim jyst i ni i brofi bod annibyniaeth yn well, mae e iddyn nhw i brofi bod y sefyllfa bresennol, y status quo, yn un y dylen ni ei meithrin a’i chadw.

“O beth dw i’n weld, does dim dadl gref o blaid hynny o gwbl. Mae’n rhaid i bethau newid, neu bydd Cymru yn y trap yma o dlodi a bod yn eilradd o fewn y Deyrnas Unedig am byth bythoedd.”

Cwtogi ar gyllidebau canghennau lleol

Yn y cyfamser, mae YesCymru wedi haneru cyllidebau canghennau lleol o £500 i flwyddyn i £250 ar gyfer 2023.

“Prin fod unrhyw ganghennau lleol yn defnyddio’u cyllidebau lleol ar hyn o bryd, a beth rydyn ni’n ei wneud ydy ein bod ni’n cymryd y cyfrifoldeb yn ganolog am rai pethau,” meddai Gwern Gwynfil wrth amddiffyn y toriadau.

“Dwed di bod yna grŵp lleol eisiau mynd i ffair farchnad efo stondin, bydden ni’n ganolog yn talu am y stondin yna yn hytrach na throsglwyddo’r arian iddyn nhw a’u bod nhw’n talu amdano fe.

“Maen nhw’n mynd i bennu fyny [gyda’r arian] os ydyn nhw eisiau fe. Ond does neb yn cymryd yr arian beth bynnag, maen nhw’n dueddol o godi arian eu hunain achos eu bod nhw eisiau cefnogi’r achos.

“Y peth arall fydden ni’n ei wneud yw rhoi mwy o nwyddau i’r grwpiau lleol i’w defnyddio nhw ffordd maen nhw eisiau, heb eu bod nhw’n talu ni’n ganolog amdanyn nhw.

“Ond does dim dwywaith amdani, os ydyn ni eisiau cael dylanwad go iawn ar y ddadl a’r wleidyddiaeth yng Nghymru, mae angen i ni gael cryn dipyn mwy o aelodau a chryn dipyn mwy o adnoddau.

“Diwedd y gân yw’r geiniog, a does dim lot o adnoddau gyda ni, does dim digon o arian nag aelodau gyda ni ar hyn o bryd.

“Mae’n rhaid i ni adeiladu hynna dros y flwyddyn nesaf.”

 

“Ddim yn annisgwyl” bod llai na hanner poblogaeth Cymru’n Gristnogion

Cadi Dafydd

“Mae’r ffaith bod cymaint o gapeli ac eglwysi wedi cau dros y degawd diwethaf yn dyst gweladwy i’r tueddiad,” medd y Parchedig Beti-Wyn James