Mae Syr Tony Robinson, yr actor a llysgennad Cymdeithas Alzheimer, yn dweud bod anwyliaid pobol sy’n byw â dementia yn gwario dros £770m er mwyn gofalu amdanyn nhw.

Mae’n dweud bod gofalwyr “yn teimlo’n ansicr am y dyfodol” yn sgil yr argyfwng costau byw.

Gyda’r Canghellor Jeremy Hunt yn neilltuo £1.2bn ychwanegol i Gymru yn ei Ddatganiad Hydref am y ddwy flynedd nesaf, mae’r gymdeithas yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gofal cymdeithasol.

“Gan fod gan Lywodraeth Cymru y grym i gyfeirio’r gwariant hwnnw, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau nad yw’r bron i 50,000 o bobol sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yng Nghymru a’u teuluoedd yn cael eu hanghofio,” meddai.

“Tra bod yr arian ychwanegol i’w groesawu, mae’r pwysau ar yr holl ofalwyr yn mynd yn fwy dwys gan y 165,000 o swyddi gwag mewn gofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, sy’n record, ac mae angen diwygio brys ar y system.

“Mae hefyd yn bryder mawr bod cyfraddau diagnosis ar eu hisaf ers pum mlynedd, sy’n golygu bod degau o filoedd o bobol yn byw heb driniaeth a chefnogaeth hanfodol.”

Mae modd i bobol lofnodi’r llythyr ar wefan Alzheimers UK .