Mae aelod o staff Palas Buckingham wedi gadael ei swydd yn dilyn ffrae tros sylwadau hiliol gafodd eu gwneud yn ystod digwyddiad dan ofal Camilla, y Frenhines Gydweddog.

Mae’r sgwrs rhwng yr aelod o staff ac Ngozi Fulani, sy’n gweithio i fudiad yn erbyn trais yn y cartref, wedi’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth yr aelod o staff ofyn iddi o le mae hi’n dod, a phan ddywedodd hi o’r Deyrnas Unedig, gofynnodd yr aelod o staff “Na, o ba genedl ydych chi’n dod?” ac yna “Na, o le ydych chi wir yn dod? O le mae eich pobol chi’n dod?”

Pan wrthododd hi ateb, dywedodd yr aelod o staff y byddai’n “her eich cael chi i ddweud o le rydych chi’n dod” cyn ychwanegu “pryd ddaethoch chi yma gyntaf?”

Pan dywedodd Ngozi Fulani bod ei rhieni wedi dod i’r Deyrnas Unedig yn y 1950au, atebodd yr aelod o staff “O, ro’n i’n gwybod y bydden ni’n cyrraedd yno yn y pen draw, o’r Caribî ydych chi”.

Yn ôl llefarydd, roedd ei sylwadau’n “annerbyniol” ac yn destun “edifeirwch”, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Helynt hiliaeth eto

Daw’r helynt ychydig yn llai na dwy flynedd ar ôl i Harry a Meghan, mab a merch-yng-nghyfraith y Brenin Charles, wneud honiadau mewn cyfweliad ag Oprah Winfrey am hiliaeth o fewn cartre’r teulu brenhinol.

Dywedodd Meghan fod aelod o’r teulu wedi gofyn pa mor dywyll fyddai croen eu mab, Archie.

Yn dilyn yr helynt, roedd William, mab hynaf Charles, yn mynnu nad yw’r teulu’n hiliol.

Mae’r unigolyn dan sylw yn yr achos diweddaraf wedi ymddiheuro, yn ôl llefarydd, sy’n dweud bod pob aelod o’r cartref wedi cael eu hatgoffa ynghylch polisïau amrywiaeth a chynhwysiant.