Mae angen cryfhau’r iaith Gymraeg fel prif iaith ar yr aelwyd ac yn y gymuned, yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith
Daw’r alwad cyn cyhoeddi canlyniadau iaith y Cyfrifiad ac maen nhw’n dweud eu bod nhw am weld cynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith teuluoedd mewn cartrefi yn cael blaenoriaeth beth bynnag fydd y canlyniadau.
“Mae hen ddigon o dystiolaeth bod ymddygiad ieithyddol plant yn cychwyn yn y cartref,” meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
“Mae’r Llywodraeth, Mudiad Meithrin, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg ac eraill wedi rhoi pwyslais ar yr iaith yn y cartref.
“Daeth yn bryd yn awr i gael cynllun cenedlaethol i ysbrydoli rhieni i wneud y Gymraeg yn brif iaith eu cartref.
“Dylai cynllun ‘Cartrefi Cymraeg’ gynnwys ysgolion ledled y wlad, a chreu ymwybyddiaeth gynyddol o rôl ieithyddol rhieni.”
Blaenoriaeth i’r Gymraeg fel iaith gymunedol
Mae Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi galw am roi blaenoriaeth i’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
“Bydd cael rhagor o gartrefi Cymraeg yn sylfaen ar gyfer Cymreigio cymunedau,” meddai Heini Gruffudd.
“Mae sawl ymchwil wedi dangos bod blynyddoedd cyntaf plant yn bwysig yn eu datblygiad ieithyddol.
“Tra bod ysgolion Cymraeg yn gwneud gwaith rhyfeddol trwy gyflwyno’r Gymraeg i nifer cynyddol o blant o gartrefi di-Gymraeg, cael rhagor o gartrefi Cymraeg fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith.
“Dyna pam mae angen cynllun cenedlaethol Cartrefi Cymraeg i gydlynu a chryfhau’r gwaith sy’n cael ei wneud yn awr gan y gwahanol sefydliadau.”