Mae Llywodraeth Catalwnia wedi lansio ymgyrch o’r newydd i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gatalaneg mewn nifer o feysydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysg, iechyd a’r sector clyweledol.

Cafodd y bwriad i gyflwyno 100 o fesurau ei gyhoeddi gan yr Arlywydd Pere Aragonès yn ystod cyfarfod brys o’r Cabinet ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 29).

Mae sawl arolwg dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos gostyngiad yn y defnydd o’r iaith, ac mae hynny wedi bod yn destun pryder.

Yn ôl arolwg yn 2018, dim ond 36% o drigolion Catalwnia ddywedodd mai’r Gatalaneg yw’r iaith maen nhw’n ei siarad fwyaf – 27.5% oedd y ffigwr yn ninas Barcelona.

“Rydyn ni eisiau byw’n llawn ac yn rhydd drwy’r Gatalaneg,” meddai Pere Aragonès, yn ôl adroddiadau’r wasg.

“Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gatalaneg ym mhob man ac nad oes angen i ni wneud esgusodion i’w defnyddio hi.”

Addysg

Yn dilyn gwrandawiad diweddar, daeth dyfarniad y dylai 25% o wersi gael eu dysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg.

Mae Llywodraeth Catalwnia yn aros am gadarnhad a oedd dyfarniad y Llys Cyfansoddiadol yn dileu dyfarniad yr Uchel Lys.

Mae’r 25% yn cwmpasu 26 o ysgolion i gyd.

Mae hyfforddi ieithyddol yn rhan allweddol o fwriad y llywodraeth, a bydd amlieithrwydd er mwyn dilyn cwrs gradd meistr mewn addysg uwchradd yn hanfodol.

Bydd gofyn hefyd i athrawon gyrraedd safon arbennig o ran y Gatalaneg, a bydd arholiad llafar yn yr iaith ar gyfer rhai myfyrwyr.

Y sector clyweledol

Blaenoriaeth arall yw sicrhau bod y Gatalaneg i’w gweld a’i chlywed yn y cyfryngau – ar deledu, yn y sinema ac ar lwyfannau digidol newydd megis TikTok i bobol iau.

Bydd cyfreithiau cyfathrebu gafodd eu cyflwyno yn 2005 yn cael eu diweddaru i “ddeddfu ar heriau newydd iaith, cynnwys clyweledol” a’r bygythiadau ddaw o dderbyn gwybodaeth mewn ffyrdd newydd.

Iechyd

Mae cynlluniau’r llywodraeth ym maes iechyd yn canolbwyntio ar bobol hŷn a’r rhai niwroamrywiol sy’n fwy bregus.

Bydd y llywodraeth yn ceisio sicrhau bod modd i gleifion ddefnyddio’r Gatalaneg ym mhob agwedd ar eu gofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau preswyl, canolfannau gofal dydd, gwasanaethau gofal yn y cartref, canolfannau dinesig a gwasanaethau ar gyfer pobol ag anableddau.

Busnes

Er mwyn hybu’r iaith ym myd busnes, bydd y llywodraeth yn cyflwyno sancsiynau ar gyfer cwmnïau sy’n gweithredu’n groes i hawliau ieithyddol.

Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi swm eu dirwy am droseddu mewn hyfforddiant ieithyddol i’w staff.

Mae’r llywodraeth yn mynnu nad ydyn nhw’n benderfynol o gosbi ar bob cyfle, ac fe fyddan nhw’n trafod â busnesau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyfathrebu ym mhob iaith sydd ei hangen.