“Siomedig iawn” yw’r cyhoeddiad y bydd dwy gangen HSBC yn y dwyrain yn cau y flwyddyn nesaf, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

Daw sylwadau Peredur Owen Griffiths yn dilyn y newyddion y bydd canghennau’r Fenni a Phont-y-pŵl yn cau eu drysau yn ystod 2023.

“Bydd y penderfyniad hwn – a wnaed gan gwmni a wnaeth ar ôl elw treth o fwy na $3bn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf – yn gadael llawer o gwsmeriaid bregus a phobol oedrannus heb gyfleusterau,” meddai.

“Dydy pawb ddim yn gyfarwydd na chyfforddus efo bancio dros y we ac nid pawb sydd ar-lein.

“Mae’r rhaniad digidol yng Nghymru yn broblem wirioneddol, yn enwedig pan fo gwasanaethau hanfodol fel bancio yn mynd ar-lein.

“Bydd hyn yn gorfodi rhai cwsmeriaid i deithio ymhellach i ffwrdd, ar fwy o gost i’w hunain, i wneud y pethau y gallen nhw unwaith eu gwneud o fewn eu cymuned eu hunain.

“Mae’r elw wedi cael ei roi uwchlaw pobol gan HSBC ac mae hynny’n gam yn ôl.”

Fe gaeodd canghennau Trefynwy a Threganna yn gynharach eleni.

Banc HSBC yn cau 69 o ganghennau

Mae’n cynnwys cangen yn Nhrefynwy a Threganna yng Nghaerdydd