Bu yna gryn anghytuno ym Mae Caerdydd yr wythnos hon wrth i Aelodau o’r Senedd ddadlau am y posibilrwydd o leihau’r wythnos waith i bedwar diwrnod.

Daw hyn ar ôl i adroddiad gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod o fewn y sector cyhoeddus.

Dan y cynlluniau byddai pobol yn gweithio diwrnod yn llai yr wythnos – ond yn derbyn yr un cyflog.