Mi ddechreuwn ni efo anhrefn y funud… a Rishi Sunak bellach ynghanol yr un math o helyntion â’r rhai a ddaeth o’i flaen. Ac, fel nhw, yn ceisio amddiffyn ffrindiau fel Nadeem Zahawi…
“Mae’n fy rhyfeddu’n barhaol mai greddf gynta’ un Prif Weinidog ar ôl y llall, er gwaetha’ profiad y gorffennol, yw ceisio dal gafael yn y rhai y maen nhw wedi eu penodi. Mae’n cadw’r stori i fynd ac yn gwneud i’r ymddiswyddo/sacio terfynol ymddangos yn achos o wendid yn hytrach na chryfder. Pam nad oes ganddyn nhw neb yn agos at y Prif Weinidog i ddweud wrtho i weithredu’n gyflym a phendant i gael gwared ar embaras?” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)
Ac mae Rishi hefyd ynghanol anniddigrwydd, wrth i anghyfartaledd ledu, er gwaetha’ (neu oherwydd) dull Llywodraeth San Steffan o rannu arian datblygu yr wythnos ddiwetha’. Yn ôl Ben Wildsmith ar nation.cymru, roedd pleidleiswyr Llafur wedi cael eu prynu gan ddiffyg egwyddor y Ceidwadwyr…
“… roedd llawer o’r pleidleiswyr hyn yn sylweddoli parodrwydd y Torïaid i wobrwyo etholaethau oedd wedi pleidleisio drostyn nhw ar draul rhai cyfagos na wnaeth hynny. Dyw’r agenda ‘lefelu’ sydd wedi bod wrth galon cynnig ôl-Brexit y Ceidwadwyr fawr mwy na phrynu pleidleisiau, ac roedd y pleidleiswyr targed yn deall hynny. Mae’r ymgais yma i ehangu sylfeini’r Ceidwadwyr yn adlais o werthu tai cymdeithasol Margaret Thatcher. Roedd hynny hefyd yn cynnig gwobr ariannol uniongyrchol am bleidleisio i’r Ceidwadwyr, gan wneud hynny ar draul pobol na fedrai fanteisio.”
Ac, yn ôl Mike Small yn yr Alban, mae’r penderfyniadau ariannol diweddara’ yn gwanhau’r ‘Undeb’ ymhellach…
“Os gallwn rannu’r dadansoddiad y dylai penderfyniadau gael eu gwneud gan y bobol sy’n cael eu heffeithio, fod Prydain yn ddychrynllyd o or-ganolog ac yn anghyfartal o ran rhanbarthau a chenhedloedd, nid dim ond annibyniaeth i’r Alban fydd yn dilyn ond hefyd gwrthryfel yn Lloegr yn erbyn llygredd a chamreoli. Mae lefelau cyni ledled Prydain wedi cyrraedd graddfa epig ac mae maint y gwaith o drwsio cymunedau ac adfer economi hyfyw yn amhosib ei amgyffred. Ond, o leia’, trwy gynnal y fath enghraifft amlwg a digywilydd o lygredd, mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud ffafr â ni i gyd ac wedi dangos, nid yn unig eu gwagle moesol eu hunain, ond y realiti fod Prydain wedi ei rhannu yn ddi-esgus ac yn ddi-droi’n ôl.” (bellacaledonia.org.uk)
Ac, os ydi hynny’n wir, meddai Frank Schnittger yng Ngogledd Iwerddon, mi ddylai pobol yr Ynys Werdd baratoi at benderfynu ar eu dyfodol eu hunain…
“Does yna fawr o amheuaeth y byddai annibyniaeth i’r Alban yn agor y fflodiat ar gyfer newid cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig yn fwy cyffredinol. Mae criw sefydliad y DU yn dal gafael gerfydd eu hewinedd… dim ond cynyddu y mae’r posibilrwydd o’r fath danchwa wleidyddol. Ac mae un peth yn sicr; bydd y danchwa’n cael ei gyrru gan flaenoriaethau Lloegr ac nid sensitifrwydd at anghenion Gogledd Iwerddon neu Iwerddon… os aiff pethau din dros ben yn Lloegr, dim ond difrod ymylol fyddwn ni, a gallai holl sylfaen ein status quo presennol gwympo’n ddarnau.” (sluggerotoole,com)