Mae cynghorydd lleol yn dweud y bydd y Bont Bodefail newydd “o fudd mawr i’r trigolion lleol”.

Cafodd Pont Bodfal ei chau fis Ionawr 2019, ond mae’r bont newydd wedi’i hagor ar draws afon Rhyd-hir ar ffordd A497 rhwng Nefyn a Phwllheli.

Daw’r bont ar ei newydd wedd ar ôl i’r hen bont gael ei chau fel lôn i gerbydau, ac mae’r gwaith arni bron yn gyflawn heblaw am oleuadau traffig sy’n dal yn eu lle ar hyn o bryd.

Cafodd yr hen Bont Bodfal yn Ionawr 2019 yn dilyn storm pan ddaeth i’r amlwg fod difrod a dirywiad sylweddol wedi bod i’w sylfeini.

Yn anffodus, rhaid oedd dargyfeirio traffig wyth milltir i’r Ffôr am gyfnod byr, tra bod gwaith argyfwng i osod pont dros dro a thrwsio’r hen bont.

Bu’n rhaid gweld a fyddai’n bosib lledaenu’r hen bont a’i gwneud yn addas ar gyfer anghenion rhwydwaith traffig heddiw, ond wedi trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth i’r amlwg na fyddai hyn yn bosib ac fe ddechreuodd y prosiect hirdymor i godi pont newydd sbon.

Cafodd agoriad swyddogol y bont newydd ei gynnal yr wythnos ddiwethaf (dydd Mercher, Mai 3), ac mae’r enw newydd wedi’i roi arni gan blentyn o ysgol leol.

Yn ôl y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, sy’n cynrychioli ward Cwm y Glo, bydd y bont o fudd mawr i bobol leol a bydd yr hen bont yn cael ei defnyddio fel ffordd hamdden, a’r bont newydd yn cael ei defnyddio fel prif lôn.

“Pwllheli yw canolbwynt economaidd, addysgol a diwylliannol yr ardal hon o Wynedd, ac mae’r A497 yn ffordd strategol sy’n cysylltu Nefyn a’r ardal wledig i’r gorllewin gyda’r dref a thu hwnt,” meddai wrth golwg360.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ffaith fod yr hen Bont Bodfal, sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn strwythur rhestredig Gradd II, wedi ei gwarchod fel ffordd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Agor y bont

Cafodd y bont allweddol yn Llŷn ei hagor yn benllanw ar bedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at £3m, oedd yn cynnwys gwelliannau i’r ffordd a gwaith draenio dŵr wyneb, ac mewn da bryd ar gyfer croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro.

Cafodd enw newydd y bont ei ddatgelu yn ystod y seremoni i’w hagor, a’r enw newydd yn cyfuno enwau’r ddau bentref agosaf i’r bont, sef Boduan ac Efailnewydd.

Cafodd yr enw ei fathu gan Magi Griffiths, disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Pentreuchaf ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth i blant y fro.

Mae amddiffyn a dathlu enwau lleoedd cynhenid Cymreig yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd, ac roedd Meirion McIntyre Huws, Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor, ar y panel ddewisodd yr enw.