Mae Carnifal Bethesda yn rhedeg eto eleni ar ôl cael ei gynnal y llynedd am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, ac mae’n ganolbwynt i’r gymuned, yn ôl rhai sydd ar y pwyllgor trefnu.
Mae dwy ddynes sydd ar y pwyllgor am y tro cyntaf eleni wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n amau mai diffyg pwyllgor i drefnu’r digwyddiad yw’r rheswm pam na chafodd ei gynnal ers cyhyd.
Mae hwn yn garnifal lleol sy’n hollol wahanol i bob un arall, ac wythnos ers coroni Brenin Lloegr, fe fydd gan y carnifal hwn frenin, brenhines a thywysog.
Mae Donna Watts yn teimlo bod y carnifal wedi bod yn llwyddiant mawr y llynedd, ond mae rhai o aelodau’r pwyllgor wedi gadael bellach gydag eraill yn dod yn eu lle.
“Mae’n dod â phawb allan o bob oedran, ac yn dod â’r gymuned at ei gilydd fel bod pawb yn gallu mwynhau a chael hwyl,” meddai wrth golwg360.
“Hon ydy’r unig adeg o’r flwyddyn mae pawb yn dod allan efo’i gilydd.
“Mae’n rywbeth i bawb.
“Rwy’n siŵr roedd o tua 30 mlynedd yn ôl i’r carnifal gael ei gynnal ym Methesda cyn y llynedd.
“Dydyn ni ddim y siŵr pam fod y carnifal heb redeg, ond rydym yn cymryd ei fod oherwydd bod dim pwyllgor.
“Mae’n llawer o waith, mae eisiau hel llawer o arian i’w gynnal.
“Cymerodd ychydig o flynyddoedd i hel yr arian.
“Mae rhaid cael pwyllgor i wneud hynny, ac rwy’n cymryd nad oedd pwyllgor.
“Dyna rwy’n amau.”
Pwyllgor newydd
Mae Bethan Wyn Roberts a Donna Watts yn newydd i’r pwyllgor eleni.
“Gwnaeth Sue Roberts a Rheinallt Puw gael pobol at ei gilydd llynedd,” meddai Bethan Wyn Roberts wrth golwg360.
“Mae llawer o’r pwyllgor llynedd wedi gadael.
“Roedd Nel (ei merch) yn frenhines flwyddyn ddiwethaf, a dyna sut dw i wedi cael mewn iddo fo.”
Does dim un carnifal arall fel y carnifal cymunedol hwn, meddai.
“Mae hwn yn garnifal gwahanol i garnifalau eraill, oherwydd efo’r carnifal gwreiddiol roedd y frenhines yn mynd i garnifalau eraill.
“Dydyn ni ddim yn gwneud hynny.
“Mae’n rywbeth lleol.
“Mewn carnifalau eraill, does gennyt ti ddim ffasiwn beth â brenin a thywysog chwaith.
“Mae gennyt ti drefn wahanol, mae’n wahanol i garnifal arferol.
“Ers cychwyn yn ôl mae wedi bod fel hyn.
“Mae gennyt ti noson y coroni heno ‘ma yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
“Mae hwnna’n cychwyn am chwech.
“Mae gennyt ti’r coroni ei hun, ac wedyn cadarnhad gan Ysgol Llanllechid a Phen-y-Bryn, a’r Majorettes hefyd.
“Mae’r Majorettes yn rywbeth sydd wedi cael ei ailwneud fel roedden nhw’n gwneud flynyddoedd yn ôl.”