Pan fo pethau’n mynd o’i le ar unrhyw blaid wleidyddol, mae’n anochel fod amheuon yn codi am addasrwydd eu harweinydd. Mae’n rhesymol fod arweinydd yn gorfod wynebu beirniadaeth am fethiannau – yn union fel mae’n disgwyl clod am lwyddiant. Yr adeg mae pethau’n mynd yn flêr ydi pan fo collfarnu o’r fath yn arwain at feddylfryd y byddai newid arweinydd yn datrys holl broblemau’r blaid honno ar amrantiad.
Mae’n gwestiwn digon teg i’w ofyn i ba raddau mae hyn wedi digwydd yn achos Plaid Cymru ac Adam Price. Mae’n sicr ei fod wedi siomi llawer o’i gefnogwyr ac mae’n amlwg hefyd ei fod wedi colli hyder ffigurau allweddol yn y blaid. Eto i gyd, bydd union yr un problemau’n wynebu pwy bynnag fydd yn ei olynu.
Yn wir, gellir dadlau bod ei ymddiswyddiad yn dyblu anawsterau Plaid Cymru. Maen nhw bellach yn gorfod chwilio am arweinydd newydd yn ogystal â thrio datrys y problemau ehangach o ddrwgdeimlad a diffyg ymddiriedaeth o fewn y blaid.
Mae hefyd ymhell o fod yn glir i ba raddau mae Adam Price ei hun yn gyfrifol am y diffygion mewnol a gafodd gymaint o sylw yn gynharach yn yr wythnos. Cafwyd honiadau gan un o’i elynion gwleidyddol ei fod yn gwybod ers blynyddoedd am ddiwylliant gwenwynig yn y blaid. Os felly, roedd y broblem yn mynd yn ôl i gyfnod cyn iddo fod yn arweinydd, ac nid ar sail unrhyw addewid i’w datrys y cafodd ei ethol yn y lle cyntaf.
Prosiect Pawb
Mewn gwirionedd, mae’r adroddiad Prosiect Pawb yn codi o leiaf gymaint o gwestiynau ag y mae’n ceisio’u hateb. Os oes achosion o aflonyddu rhywiol a bwlio yn digwydd o fewn y Blaid, mae’n fater difrifol sy’n gofyn am weithredu effeithiol. Eto i gyd, gellir dadlau bod priodoli hyn i ryw fath o ‘ddiwylliant’ yn achub croen y rhai euog. Mae’n anodd gweld pa resymeg sydd mewn gweld cymaint o bobol uniawn ac egwyddorol o fewn y Blaid – yn ddynion ac yn enwedig yn ferched – yn cael eu pardduo â chyhuddiad o’r fath pan y gwyddom yn iawn nad ydyn nhw’n gyfrifol. Yn y pen draw, mae unrhyw unigolyn sy’n bwlio neu’n aflonyddu’n rhywiol – mewn unrhyw blaid – yn gyfrifol am ei ymddygiad ei hun, ac ni chaiff y sefyllfa ei datrys hyd oni enwir y rheini sy’n euog.
Mae yna dueddiad gormodol yn yr adroddiad hefyd i ymdrin â bwlio, aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod (misogyny) yn yr un gwynt, bron fel pe bai’r tri chamwedd yr un fath. Efallai fod elfennau cyffredin rhyngddynt, ond dydi hyn ddim yn golygu mai’r un bobol ydi’r tramgwyddwyr o angenrheidrwydd. Yn benodol, mae casineb at fenywod yn gyhuddiad difrifol iawn na ddylid ei wneud oni bai fod tystiolaeth glir o hyn. Os ydi’r gair misogyny yn cael ei orddefnyddio, fel mae ymgyrchwyr hawliau pobol drawsryweddol yn ei wneud gyda geiriau fel transphobe, y canlyniad anochel fydd pylu ei ystyr.
Mae materion fel hyn yn arwydd o frwydrau mewnol o fewn y blaid. Mi ellir dychmygu fod yna garfannau o aelodau’r blaid yn ddigon hapus o’i gweld yn cael delwedd gyhoeddus o fod yn annheg at ferched – er mwyn ei gwneud yn haws iddyn nhw wthio eu hagenda eu hunain o ran dewis ymgeiswyr ac ati. Os felly, maen nhw’n chwarae gêm ddigon perygl.
Mae rhesymau dyfnach am drafferthion Adam Price o fewn y blaid a wnaeth ei arweinyddiaeth yn amhosibl yn y diwedd. Roedd llawer o gefnogwyr y cyn-arweinydd Leanne Wood yn dal yn teimlo’n ddig ei fod wedi ei herio am yr arweinyddiaeth bron i bum mlynedd yn ôl bellach, a’r farn yw bod ganddyn nhw fwyafrif ar bwyllgor gwaith Plaid Cymru.
Yn gysgod uwchben yr adroddiad – er nad yw hyn yn cael ei grybwyll o gwbl – mae’r ffrae a’r rhwyg ynghylch Aelod Seneddol Dwyrain Caefyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards. Gallwn fod yn sicr fod pob pont bosibl rhwng y blaid ac yntau wedi cael eu hen losgi cyn llunio’r adroddiad hwn. Eto i gyd, mae’n ffaith fod carfan helaeth o fewn y blaid yn credu ei fod wedi cael bai ar gam – a hefyd yn amau cymhellion y rhai a oedd yn galw’n fwyaf croch am ei ddiarddel am oes.
Beth bynnag ydi dadleuon y ddwy ochr yn y mater hwn, mae bron yn anochel y bydd yr helynt yn arwain at golli sedd newydd Caerfyrddin yn etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn sicr yn broblem i’r arweinydd newydd, ac a allai’n hawdd fod wedi bod yn ergyd farwol i Adam Price pe bai wedi parhau’n arweinydd tan hynny.
Diffyg llwyddiant etholiadol
Lawn mor arwyddocaol ag unrhyw ymrafael mewnol oedd y diffyg llwyddiant etholiadol o dan ei arweiniad. Er bod y blaid wedi dal ei thir yn yr etholiadau a fu dros y cyfnod hwnnw, prin ydi’r rhagolygon o unrhyw dwf pellach. Gallwn fod yn sicr i hyn fod yn ffactor allweddol yn ei ymddiswyddiad – o ran ei benderfyniad ei hun o bosibl, a hefyd yn y graddau o gefnogaeth roedd ganddo.
Rhaid cydnabod ei fod yn anlwcus o fod yn arweinydd ar adeg pan oedd gan Lafur Brif Weinidog sy’n boblogaidd ymysg aelodau Plaid Cymru. Does dim prinder o aelodau o Blaid Cymru ar lawr gwlad sydd wedi bod yn ddigon parod i gyfaddef eu bod yn teimlo bod Mark Drakeford yn gwneud gwell prif weinidog nag y byddai Adam Price. Neu’n wir, unrhyw un arall o wleidyddion Plaid Cymru pe bai’n dod i hynny.
Camgymeriad mawr i Blaid Cymru dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf fyddai canolbwyntio’n gyfan gwbl ar sut i ddatrys ei rhwygiadau a’i diwylliant mewnol. Ni fydd y blaid fwyaf unedig a chyfeillgar yn gallu symud ymlaen fawr ddim os na fydd yn gallu cynnig gweledigaeth glir a chredadwy o’r hyn y gall ei gyflawni i Gymru.
O ran nodau cyfansoddiadol, mae wedi dibynnu’n ormodol ar ddefnyddio’r math o ystrydebau am annibyniaeth sy’n debygol o blesio’i chefnogwyr craidd. Yn ogystal â diffinio pa raddau o annibyniaeth ar Loegr mae’n eu ceisio, mae’n rhaid iddi ddangos hefyd sut y byddai’n cyflawni amcan o’r fath.
Os edrychwn tua’r Alban, lle mae llawer mwy o gefnogaeth i annibyniaeth nag sydd yng Nghymru, gwelwn fod hwn yn gwestiwn mwy anodd nag y gallem fod wedi tybio. Dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae’r SNP wedi llywodraethu’r Alban ac wedi ennill mwyafrif llethol yr etholaethau yn etholiadau San Steffan. Eto, dydi’r SNP ddim nes at gyflawni ei nod o annibyniaeth nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl – yn wir, dydi hi ddim chwaith wedi ennill mwy o bwerau i’r Alban dros y cyfnod hwnnw.
Gyda chymaint llai o gefnogaeth gyffredinol i annibyniaeth yng Nghymru, mae’n awgrymu’n glir nad ydi hyn yn rywbeth y byddai gobaith i un blaid allu ei gyflawni.
Cwestiwn mwy perthnasol felly i Blaid Cymru ar hyn o bryd ydi sut y mae am ennill rhagor o bwerau i Gymru. Does dim amheuaeth mai ei chyfraniad cwbl allweddol at droi’r Cynulliad yn Senedd yn ystod Llywodraeth Cymru’n Un ydi llwyddiant mwyaf a phwysicaf Plaid Cymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Yr her ar hyn o bryd fydd canfod ffyrdd o gydweithio i wthio am fwy o rymoedd – ac yn sicr amddiffyn yr hyn a enillwyd eisoes.
Ar ben hyn, mae angen gweledigaeth o beth fyddai Plaid Cymru’n ei wneud pe bai’n ffurfio llywodraeth a rhedeg y Gwasanaeth Iechyd, yr economi a’r amgylchedd. Does dim byd haws na beirniadu’r Llywodraeth am fethiannau’r Gwasanaeth Iechyd a Betsi Cadwaladr, ond a oes gan Blaid Cymru unrhyw weledigaeth glir am sut i wneud gwelliannau sylweddol i iechyd yng Nghymru?
Cefnu ar chwedl y Mab Darogan
Daeth yn fwyfwy amlwg hefyd yn ddiwedddar fod teimlad ymysg llawer o aelodau cyffredin ar lawr gwlad nad oedd Adam Price efallai wedi llwyddo i’w hysbrydoli i’r graddau roedd rhai ohonynt wedi gobeithio.
Daw hyn â ni’n nes at ddeall gwendid mwyaf ei arweinyddiaeth – sef bod llawer o aelodau Plaid Cymru wedi disgwyl gormod oddi wrtho.
Yn ei ddyddiau cynnar fel Aelod Seneddol yn Llundain, dechreuodd delwedd ddatblygu ohono fel rhyw fath o Fab Darogan a fyddai’n ateb holl broblemau Plaid Cymru.
Er i’r ddelwedd hon ei godi i’r entrychion ar un adeg, daeth yn groes drom iddo ei chario unwaith y daeth yn arweinydd, gan fod y disgwyliadau ohono gymaint â hynny’n uwch.
Nid oes amheuaeth am ei ddoniau rhethregol, wrth gwrs, er efallai ei fod yn eu gorddefnyddio ar adegau. Roedd rhywun yn teimlo weithiau fod ganddo’r tueddiad i ymdrin ag unrhyw bwnc, waeth pa mor ddibwys, fel pe bai’n annerch rali ymgyrchwyr hawliau sifil yn America’r 1960au.
P’run bynnag, nid yw dawn siarad ynddo’i hun mewn gwleidydd yn golygu o anghenrheidrwydd y bydd yn arweinydd da am reoli ei blaid, ac efallai fod hyn hefyd yn arbennig o wir yn ei achos o.
Eto i gyd, adlewyrchiad o naïfrwydd llawer o aelodau Plaid Cymru, yn hytrach nag unrhyw fai ar Adam Price ei hun, oedd eu parodrwydd i lyncu chwedl y Mab Darogan yn rhy lythrennol.
I lawer o genedlaetholwyr Cymreig, mae’r ddadl dros annibyniaeth i Gymru mor rymus a chyfiawn fel eu bod yn credu mai’r cwbl sydd ei angen ydi arweinydd sydd â’r huotledd a’r carisma i allu cyfleu’r neges yn effeithiol. Dydyn nhw ddim fel pe baen nhw’n sylweddoli nad ydi trwch pobol Cymru ddim wedi eu codi yn yr un diwylliant â nhw nac yn rhannu’r un gwerthoedd. A ffolineb pur ydi priodoli diffyg brwdfrydedd trwch y boblogaeth dros annibyniaeth i ryw fath o ddiffyg hyder neu wendid moesol ar eu rhan.
Mae’r rhan fwyaf o wleidyddion Plaid Cymru’n sylweddoli hyn – ond efallai fod angen iddyn nhw wneud mwy weithiau i gadw traed eu haelodau ar y ddaear.
Y wers bwysicaf y gall gwleidyddion ac aelodau Plaid Cymru ei dysgu o gyfnod Adam Price fydd peidio â disgwyl gormod gan eu harweinydd newydd, pwy bynnag y bydd o neu hi.