Bydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal i ddathlu canmlwyddiant deiseb heddwch a gafodd ei llofnodi gan tua 400,000 o fenywod Cymru yn y 1920au.

Cafodd y ddeiseb ei lansio mewn cyfarfod yn Aberystwyth ar Fai 23 1923, gan apelio ar fenywod yr Unol Daleithiau i annog eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd yn y gobaith o ddod â heddwch parhaol wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dros y pum mis canlynol, casglwyd 390,296 o lofnodion drwy fynd o ddrws i ddrws, gan gyrraedd pob rhan o Gymru a phob haen o gymdeithas.

Cafodd y tudalennau eu rhoi mewn cist dderw a’u cyflwyno i fenywod Cymru dan ddirprwyaeth tair cenhades heddwch, a’u cyflwyno i’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn wedi hynny.

Ers hynny, cadwyd y ddeiseb a’r gist yn Sefydliad y Smithsonian yn Washingston DC, ond maen nhw newydd ddychwelyd i Gymru.

Bydd y stori’n cael ei hadrodd mewn cynhadledd undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddiwrnod y canmlwyddiant.

‘Codi ymwybyddiaeth’

Siaradwyr y diwrnod fydd cyfranwyr at gyfrol am apêl menywod Cymru fydd yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach eleni gan y Lolfa, gan gynnwys Eirlys Barker; y llenor a’r cyfieithydd Meg Elis; y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans; a Mererid Hopwood a Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd cyd-drefnydd y gynhadledd, Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ac Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru: “Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddod â hanes yr ymgyrch ryfeddol hon i olau dydd, yma yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau.

“Ganrif wedi’r ddeiseb wreiddiol, mae’r angen am heddwch byd yr un mor daer, a da o beth yw cael stori fel hon i’n hysbrydoli.”

Ychwanegodd Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y brifysgol: “Ein gobaith yw y bydd y gynhadledd hon – ynghyd â’r gyfrol sydd i’w chyhoeddi ym mis Tachwedd 2023 – yn codi ymwybyddiaeth am apêl y menywod a sut mae’n gweddu â hanes ymdrechion ehangach Cymru i sicrhau heddwch.”

Mae mynediad i’r gynhadledd ‘Hawlio Heddwch’ yn rhad ac am ddim, ond mae gofyn i bobol gofrestru o flaen llaw gan fod llefydd yn gyfyngedig.