Bydd Academi Gwenyn Iach newydd yn cael ei lansio i helpu pobol sy’n cadw gwenyn i wella iechyd a chynhyrchiant eu cychod.
Mae’r Academi, sy’n cael ei chynnal gan Fenter a Busnes, ar agor i unrhyw wenynwr canolradd ledled Cymru a Lloegr.
Bydd y lansiad ddydd Sadwrn nesaf (Mai 20) yn ystod Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
‘Effaith gadarnhaol’
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu mwy am bedwar pwnc penodol yn ymwneud ag iechyd gwenyn i helpu gwenynwyr i gynyddu eu stociau gwenyn eu hunain yn hytrach na dibynnu ar fewnforion.
Mae nythfeydd gwenyn mêl yn wynebu llawer o fygythiadau gan blâu, afiechydon a newid yn yr hinsawdd, ac mae’r modiwlau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi gwenynwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i wella iechyd a gwytnwch eu nythfeydd.
Mae’r modiwlau ar agor yn rhad ac am ddim i bobol sydd wedi cadw gwenyn am o leiaf dair blynedd.
Bydd y rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl ar-lein, ac mae cynnwys y cwrs wedi cael ei lunio gan y wenynwraig brofiadol Lynfa Davies, sydd â Diploma Cenedlaethol mewn Cadw Gwenyn.
“Mae cefnogi gwenynwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn hanfodol i gynaliadwyedd hirdymor cadw gwenyn yng Nghymru a Lloegr,” meddai’r Swyddog Bioamrywiaeth ar gyfer Cyswllt Ffermio a rheolwr prosiect yr Academi Gwenyn Iach.
“Rydym yn mawr obeithio y bydd gwenynwyr yn mwynhau gweithio eu ffordd drwy’r modiwlau hyn a rhoi’r sgiliau newydd yn eu lle yn eu gwenynfeydd eu hunain.
“Mae gennym gyfle gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a chynhyrchiant nythfeydd gwenyn mêl yn y dyfodol, sydd mor hanfodol i ddarparu amrywiaeth yn y cadwyni cyflenwi bwyd rydym yn dibynnu arnynt.”
‘Hanfodol’ cael gwenynod iach
Yn ôl Adam Jones, gwenynwr a garddwr o Sir Gaerfyrddin, bydd yr Academi Gwenyn Iach yn ffordd bwysig o roi gwybodaeth i wenynwyr.
“Mae cynnal iechyd ein nythfeydd gwenyn yn hanfodol,” meddai.
“Mae poblogaeth iach o wenyn yn hanfodol ar gyfer yr amgylchedd a chynhyrchiant ein cychod gwenyn.
“Mae gallu cael mynediad hawdd i hyfforddiant rhad ac am ddim, trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a fydd yn ein helpu i ddiogelu gwenyn rhag bygythiad parasitiaid a chlefydau i’w groesawu’n fawr.”