Bydd gradd newydd yn cael ei chynnig ym Mangor i hyfforddi pobol i reoli cyrchfannau twristaidd mewn modd cynaliadwy.
Cafodd y radd Rheoli Twristiaeth newydd ei chynllunio gyda sefydliadau sy’n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn y gogledd.
Bydd y radd yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher (Mai 17).
Yn ôl Dr Linda Osti, sy’n arwain y cwrs newydd ac yn arbenigwr ar ymddygiad twristiaid, mae angen graddedigion medrus a gwybodus i gynnal lles y cymunedau sy’n croesawu twristiaid.
“Y Pasg yw dechrau tymor haf newydd ar gyfer cyrchfannau a rhai sy’n rhedeg busnesau twristiaeth ledled Ewrop, gyda sawl cyrchfan yn gweithredu gwahanol strategaethau i reoli llif ymwelwyr, sicrhau diogelwch, osgoi tarfu ar gymunedau, ac yn y pen draw, cynyddu boddhad ymwelwyr,” meddai.
“Er enghraifft, mae tref Portofino yn yr Eidal wedi gweithredu ardaloedd ‘parth coch’ mewn dau fan sy’n boblogaidd iawn ar Instagram, lle gallai cerddwyr gael dirwy o hyd at €275 os ydyn nhw’n stopio am gyfnod rhy hir wrth dynnu llun neu edmygu harddwch y golygfeydd.
“Mae Fenis unwaith eto wedi trafod strategaeth i gyflwyno tâl mynediad i ymwelwyr dydd yn amrywio o €3 i €10, ac mae ymwelwyr dros nos eisoes yn talu treth, tra’n agosach at adref yng ngogledd Cymru, cafodd bron i 40 o gerbydau eu symud o ardal Llyn Ogwen a Phen-y-pas ar ddechrau gwyliau’r Pasg.”
Cydbwyso anghenion
Bydd y radd newydd, sy’n cael ei chynnig gan Ysgol Fusnes Bangor, yn helpu myfyrwyr i ddeall yr angen i gydbwyso anghenion economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol cymunedau.
“Mae siarad â busnesau sy’n lleol i ni yma fel Halen Môn, y Sw Fynydd Gymreig, a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi ein galluogi ni i ddarganfod pa sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau a sefydliadau twristiaeth go iawn wrth drafod swyddi ar lefel graddedigion,” eglura Dr Linda Osti.
“Dyma rai o’r cwestiynau mawr i arweinwyr twristiaeth ar hyn o bryd: sut mae defnyddio’r datblygiadau cyffrous o ran argaeledd data amser real a realiti estynedig i wneud twristiaeth yn ddoethach? Sut mae gwneud twristiaeth yn fwy gwydn, yn fwy cynaliadwy, a’i wneud i weithio’n well gyda’r gymuned ehangach? Beth yw’r tueddiadau mawr sy’n newid ymddygiad defnyddwyr o ran twristiaeth?
“Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i roi’r sylfaen hollbwysig honno mewn theori i fyfyrwyr, ac yna symud ymlaen i astudiaeth fwy cymhwysol yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gyda theithiau maes i fusnesau twristiaeth.
“Mae prosiect cymhwysol gyda sefydliad twristiaeth hefyd wedi’i ymgorffori fel rhan o’r cwrs, yn ogystal ag opsiwn i ymgymryd â blwyddyn leoliad ychwanegol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu dramor.”
Bydd y radd Rheolaeth Twristiaeth yn cael ei lansio yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor ddydd Mercher rhwng 4yp a 6yp, gyda thrafodaeth banel ar y sector twristiaeth yn y gogledd.