Mae angen cymryd canser y croen o ddifrif, yn ôl elusennau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Melanoma.
Daw’r rhybuddion wedi i ystadegau ddangos nad yw 34% o bobol Cymru fyth, neu bur anaml, yn gwisgo eli haul tra’u bod nhw yng ngwledydd Prydain.
Pan ofynnwyd iddyn nhw pam nad ydyn nhw’n defnyddio eli haul, dywedodd 39% nad oedden nhw’n disgwyl llosgi.
Er hynny, dywedodd 60% o bobol Cymru eu bod nhw’n llosgi o leiaf unwaith y flwyddyn, yn ôl yr ymchwil gan Melanoma Focus.
‘Anwybyddu’r rhybuddion’
Dywed Susanna Daniels, Prif Weithredwr yr elusen, fod modd atal tua naw ym mhob deg achos o ganser y croen.
“Mae tua saith person yn marw bob dydd yn sgil melanoma yn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy o bobol yn marw yn ei sgil yma nag yn Awstralia,” meddai.
“Mae’n peri pryder bod pobol yn parhau i anwybyddu’r rhybuddion a ddim yn cymryd y camau priodol i amddiffyn eu hunain rhag canser y croen.
“Gall gwelyau haul fod yn andros o beryglus, ac mae hi’n peri pryder eu bod nhw mor boblogaidd yn y Deyrnas Unedig.
“Y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag peryglon gwelyau haul yw eu hosgoi nhw’n llwyr a defnyddio eli haul â ffactor uchel, ynghyd â mynd i’r cysgod a gwisgo het yn yr haul.”
‘Annog pobol i amddiffyn eu hunain’
Mae Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi dangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth hefyd.
“Dw i wrth fy modd yn cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Melanoma a gwneud be fedra i i helpu i sicrhau bod fy etholwyr yn amddiffyn eu hunain a’u hanwyliaid rhag y ffurf hynod beryglus yma o ganser y croen, sydd i’w weld yn amlach.
“Bydd un ymhob 36 dyn ac un ymhob 47 menyw yn cael diagnosis o felanoma yn ystod eu hoes.
“Dyma’r math mwyaf angheuol o ganser y croen, ac mae ymysg y pum canser mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, ac yn lladd 2,333 o bobol y flwyddyn.
“Ond eto, mae’n bosib atal 86% o felanomas.
“Dw i felly’n annog pobol i amddiffyn eu hunain gydag eli haul ffactor 30+ a gwirio eu croen, a chysylltu â’u meddyg os ydyn nhw’n sylwi ar fan du neu friw newydd neu sy’n newid.”