Mae’r wythnos hon yn Wythnos Cynnig Cymraeg, a bob dydd bydd blog newydd ar golwg360 gan gorff sydd wedi derbyn y Cynnig. Ar gychwyn yr wythnos, dyma Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, i egluro nod y Cynnig Cymraeg.


Mae’r amser wedi hedfan ers i fi gychwyn yn y swydd hon ym mis Ionawr, ac yn y misoedd cyntaf prysur rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod ag amryw o bobol a chyrff ar draws Cymru, ac wedi dysgu llawer am yr hyn sydd yn ddisgwyliedig gennyf yn y swydd.

Mae’n diwn gron gen i bellach, ond arwydd o lwyddiant i fi ar ddiwedd fy nghyfnod fel Comisiynydd fyddai bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol ym mhob man. Beth bynnag ddywed yr ystadegau swyddogol, mae pobol ar draws Cymru yn frwdfrydig am y Gymraeg. Mae gennym gynlluniau cenedlaethol i gynyddu’r niferoedd a’r defnydd o’r Gymraeg, ac mae angen i ni gyd gydweithio i wireddu’r cynlluniau.

Mae rôl y Comisiynydd yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth cyrff sydd yn dod o dan y Safonau, ynghyd â chyfrifoldeb i hyrwyddo a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob sector.

Mae’r wythnos hon, wythnos y Cynnig Cymraeg, yn gyfle i ddathlu y cyrff hynny nad ydyn nhw yn dod o dan gwmpas y Safonau ond sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg.

Mae’n braf dweud, ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020 fod dros 75 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth, ac mae wedi bod yn braf gweld y brwdfrydedd sydd tuag at y cynllun gyda nifer yn dod atom yn gyson yn gofyn am wybodaeth bellach er mwyn cychwyn ar y daith.

Mae’r cyrff sydd wedi ymrwymo yn amrywio o gwmnïau cenedlaethol megis cymdeithas adeiladu’r Principality ac archfarchnad Lidl i elusennau adnabyddus fel NSPCC Cymru ac RSPB Cymru i sefydliadau mwy lleol megis Tir Dewi a Banc Bwyd Arfon.

Wrth i’r cyrff hyn ddatblygu eu cynlluniau Cymraeg, mae’n deg nodi na fydd pob elfen o’u gwasanaethau ar gael drwy’r Gymraeg ar unwaith, maent fel arfer yn datblygu gam wrth gam yn unol â chynllun datblygu sydd wedi ei gytuno fel rhan o’r broses.

Bydd cyfle i chi ddarllen mwy am rai ohonynt drwy gydol yr wythnos hon ar golwg360, ac wrth ddiolch iddynt am eu hymrwymiad hoffwn ein hatgoffa ni gyd fod gennym ninnau ddyletswydd i fanteisio a defnyddio’r gwasanaethau hyn yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Cofiwch hefyd, os ydych chi yn awyddus i weithio tuag at gymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.