Wrth drafod strategaeth addysg Cyngor Ynys Môn, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n “gwisgo hen bolisi mewn dillad newydd”.

Maen nhw’n cyhuddo’r Cyngor o weithredu’r hen bolisi o gau ysgolion gwledig, wrth i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth ddraft ‘Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg’, fydd yn dod i ben ddydd Mercher (Mai 17).

Ymhlyg yn y strategaeth mae’r bygythiad i gau hyd at 17 o ysgolion cynradd sydd â llai na 91 o ddisgyblion.

‘Diddychymyg a digalon’

Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, mae’n “ddogfen ddiddychymyg a digalon” sydd â’r prif nod o “wthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg”.

“Yma maen nhw’n gwisgo hen bolisi a rhagfarn mewn dillad newydd gan honni mai ceisio lleihau ôl-troed carbon yw’r nod oherwydd adeiladau diffygiol y mae’r Cyngor ei hun yn euog o beidio a buddsoddi ynddynt, a thrwy honni eu bod yn ymateb i agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru sydd ei hun wedi rhoi llawer o’r ysgolion ar Restr Ysgolion Gwledig er mwyn eu gwarchod, trwy fod rhagdyb o blaid eu cadw ar agor,” meddai.

“Yn anhygoel, honna’r Cyngor eu bod yn gweithredu i ddatblygu’r Gymraeg trwy danseilio cymunedau gwledig Cymraeg wrth gau’r ysgolion.

“Mae’r Cyngor yn tristau fod demograffeg y cymunedau’n newid trwy fod llai o bobol ifainc ond eto am gau ysgolion, sy’n ei gwneud yn llai tebyg byth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu yn y cymunedau hyn heb ysgol i’w plant.

“Byddwn fel Cymdeithas yn anfon ein ymateb llawn i’r strategaeth ddrafft at ysgolion a Chynghorau Cymuned yn ardaloedd gwledig yr ynys, a byddwn yn cefnogi pob cymuned sydd am frwydro dros eu dyfodol.”