A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae St John Ambulance Cymru wedi rhannu awgrymiadau da ar gyfer rheoli pryderon.

Yn ôl Mental Health UK, bydd un ym mhob deg ohonom sy’n byw yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag anhwylder gorbryder ar unrhyw un adeg, gan wneud y broblem yn fwy cyffredin nag erioed.

Fel prif elusen cymorth cyntaf Cymru, mae St John Ambulance Cymru’n deall pwysigrwydd ymyrraeth iechyd meddwl a’r ffaith y gall hynny olygu’r gwahaniaeth rhwng achub a cholli bywyd.

Mae’r elusen yn cynnal cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl llawn gwybodaeth, sy’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i fynychwyr o’r ffactorau iechyd meddwl sy’n gallu effeithio ar les, ac yn archwilio beth all pobol ei wneud i gael y gefnogaeth gywir ar gyfer ffrindiau, aelodau o’r teulu neu gydweithwyr.

Mae gwybod sut i gadw’n ddiogel yn hollbwysig.

Cyngor

Dyma’r cyngor sy’n cael ei roi gan St John Ambulance Cymru:

  • Canolbwyntiwch ar eich anadlu. Rhowch gynnig ar ymarferion anadlu i symud eich ffocws a lleihau tensiwn trwy ganolbwyntio ar y foment bresennol.
  • Symudwch eich corff. Mae ymarfer corff yn feddyginiaeth naturiol wych ar gyfer pryder, yn enwedig wrth wneud hynny ym myd natur. Mae ymarfer corff a threulio amser ym myd natur yn ffyrdd sydd wedi’u profi o wella ein hiechyd meddwl (a chorfforol) cyffredinol.
  • Deallwch eich pryder. Gall cadw dyddiadur o’r hyn sy’n digwydd yn eich bywyd a sut mae’n effeithio arnoch chi eich helpu i ddeall beth sy’n sbarduno’ch meddyliau a’ch teimladau pryderus.
  • Siaradwch â ffrindiau a theulu. Weithiau, gall siarad am eich pryder wneud i bryderon ymddangos yn llai brawychus. Gall sgwrsio â ffrindiau a theulu hefyd eich helpu i deimlo’n llai unig.
  • Wynebwch eich ofnau yn raddol. Gall osgoi sefyllfaoedd sy’n gwneud i ni deimlo’n bryderus wneud y sefyllfa’n waeth weithiau. Wynebwch eich ofnau yn raddol, ac yn y pen draw bydd y sefyllfaoedd brawychus yn dod yn haws.

Stigma

“Mae pawb yn profi pryder o bryd i’w gilydd sy’n normal, ond mae mor bwysig ein bod yn dysgu adnabod yr arwyddion a’r symptomau pan ddaw’n llethol ac yn effeithio ar fywyd bob dydd,” meddai Belinda James, Hyfforddwraig Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl St John Ambulance Cymru.

“Mae cymaint o stigma o hyd ynghylch afiechyd meddwl, sy’n golygu yn aml gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau sgwrs amdano.

“Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn gyfle gwych, gwerth chweil lle gall pobl ddysgu mwy am bryder ac iechyd meddwl yn gyffredinol.

“Mae’n canolbwyntio ar sut i adnabod pryd y gallai rhywun fod yn cael trafferth ac mae’n helpu i ddatblygu’r hyder sydd ei angen i ddechrau’r sgwrs.”

Does neb sy’n cael trafferth gyda phryder ar eu pennau eu hunain, gyda nifer o linellau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru all fod yno i bobol yn ystod argyfwng iechyd meddwl.

Mae modd cael cymorth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ffonio 111, neu’r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ar 116 123, sydd am ddim o unrhyw ffôn.

Mae gan y Samariaid hefyd Linell Gymraeg ar 0808 164 0123 o 7yh–11yh bob dydd.

I’r rheiny sydd ddim eisiau siarad dros y ffôn, mae SHOUT yn darparu gwasanaeth cymorth 24/7 trwy neges destun ar 85258, sy’n darparu cymorth ar unwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am gwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl St John Ambulance Cymru, mae modd mynd i’r wefan www.sjacymru.org.uk/cy/cyrsiau/MHFA.