A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Coeliac UK (Mai 15-21), mae ystadegau’n dangos bod gan ryw 20,000 o bobol yng Nghymru symptomau sydd heb gael diagnosis.

Prawf gwaed syml yw’r cam cyntaf sy’n sefyll rhyngddyn nhw a mynd ar y ffordd i wella.

Mae clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn difrifol sy’n effeithio ar un ym mhob 100 o bobol.

Ond dim ond 36% o’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y cyflwr sy’n cael diagnosis meddygol.

Pan fydd pobol â’r cyflwr yn bwyta glwten – protein sydd mewn gwenith, haidd a rhyg – mae eu corff yn ymosod ar ei feinweoedd ei hun.

Os na chaiff ei drin, gall achosi difrod i’r perfedd a chymhlethdodau iechyd difrifol, a’r unig driniaeth ar gyfer clefyd seliag yw diet llym heb glwten am oes.

Er y gall clefyd seliag effeithio ar bawb yn wahanol, yn fwyaf cyffredin mae’n adnabyddus am ‘broblemau yn ymwneud â’r perfedd’.

Edrych tu hwnt i symptomau

Mae’r ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag yn edrych y tu hwnt i symptomau nodweddiadol y perfedd ac yn amlygu’r symptomau llai adnabyddus all helpu i uno’r dotiau i gyflymu’r llwybr at ddiagnosis.

Cenhadaeth yr elusen ar gyfer yr ymgyrch yw cynyddu ymwybyddiaeth a lleihau’r amser mae’n ei gymryd i gael diagnosis, all fod yn 13 mlynedd yn aml i oedolion, tra byddan nhw’n parhau i brofi problemau iechyd parhaus allai achosi niwed parhaol o bosib.

Mae Coeliac UK yn tynnu sylw at nifer o symptomau cysylltiedig llai adnabyddus yn ystod ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag eleni, gan gynnwys:

  • Gorludded (blinder difrifol)
  • Briwiau parhaus yn y geg
  • Anemia anesboniadwy
  • Symptomau niwrolegol
  • Tanffrwythlondeb anesboniadwy (gwrywaidd a benywaidd) a chamesgoriadau rheolaidd

Mae ymchwil newydd yn amlygu’r diffyg ymwybyddiaeth o rai o’r symptomau hyn, gyda 93% o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn anymwybodol bod tanffrwythlondeb neu gamesgoriadau rheolaidd yn symptomau clefyd seliag.

Mae 88% yn anymwybodol o friwiau yn y geg, tra bod 70% yn anymwybodol o ddiffyg haearn, fitaminau neu anemia fel symptom.

I’r rhan fwyaf o bobol, ar ôl cael diagnosis o glefyd seliag, maen nhw’n gallu dechrau ar y ffordd i wella, ac yn aml byddan nhw’n gweld gwelliannau cyflym iawn yn eu hiechyd.

Hunanasesiad

Y cam cyntaf sy’n cael ei argymell gan Coeliac UK ar gyfer y rhai sy’n chwilio am atebion ynghylch eu symptomau anesboniadwy yw gwneud hunanasesiad cyflym a hawdd.

Bydd yr holiadur ar-lein tair munud hwn, sy’n seiliedig ar ganllawiau NICE, yn cadarnhau a yw’r unigolyn yn cael cyngor i siarad â’i weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch cael prawf, gan roi llythyr i bobol fynd ag ef at eu meddyg teulu.

Fodd bynnag, mae Coeliac UK yn awyddus i bwysleisio na ddylai pobol dorri glwten allan o’u diet heb gael eu profi am glefyd seliag yn gyntaf.

Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i glwten fod yn y diet, neu fydd y prawf ddim yn gweithio a gallai roi canlyniad negyddol ffug.

‘Newidiadau cadarnhaol aruthrol’

“Pan fydd rhywun sydd wedi bod yn profi symptomau clefyd seliag yn cael ateb i’r achos o’r diwedd, gall y newidiadau cadarnhaol fod yn aruthrol,” meddai Hilary Croft, Prif Swyddog Gweithredol Coeliac UK.

“Rydym wedi gweld rhai pobol yn cael trafferth gyda symptomau clefyd seliag ers degawdau, heb fod yn ymwybodol bod yna driniaeth, diet heb glwten a ragnodwyd yn feddygol.

“Fodd bynnag, mae angen cynyddu ymwybyddiaeth o hyd, gyda mwy na chwarter (26%) poblogaeth y Deyrnas Unedig yn adrodd nad ydynt erioed wedi clywed am glefyd seliag.

“Mae hyn yn cynyddu i dros 75% ar gyfer y symptomau llai adnabyddus, er eu bod yn ddangosyddion allweddol nad yw rhywbeth yn hollol iawn ac y gall fod gan y person clefyd seliag heb ddiagnosis.

“Mae llawer mwy o symptomau clefyd seliag na’r problemau sy’n ymwneud â’r perfedd arferol, ac mae’r cyflwr yn wahanol i bawb.

“Trwy ein hymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth, ein nod yw cyrraedd tua hanner miliwn o bobol sy’n byw gyda chlefyd seliag heb ei ddiagnosis a’u helpu i fynd ar y ffordd i wella.”

‘Ymddiried yn eich perfedd’

I’r rhai sydd wedi cael diagnosis ar ôl blynyddoedd o ddioddef symptomau, mae’r newid yn ansawdd eu bywyd wedi bod yn ddramatig.

Roedd Abi, sy’n 34 mlwydd oed, yn y brifysgol pan ddechreuodd arddangos symptomau pryderus.

“Roeddwn i bob amser wedi blino’n lân – pe bawn i’n gwneud unrhyw beth actif byddwn yn fyr iawn fy anadl,” meddai.

“Byddai’n rhaid i mi orwedd am ychydig i wella o’r bendro.

“Ces i fislifoedd afreolaidd iawn hefyd – weithiau ni fyddwn yn cael un am dri neu bedwar mis.”

Ar ei gwaethaf yn 2013, roedd hi yn y gwaith pan na allai gerdded, ac roedd yn teimlo’n wanllyd.

Ymwelodd hi â’r meddyg a chael prawf gwaed yr un diwrnod.

“Pan ddaeth y canlyniadau yn ôl, dywedodd fy meddyg teulu fy mod i mor anemig y dylwn fod yn yr ysbyty yn cael trallwysiad gwaed!”

Roedd hi eisoes yn aros am ganlyniadau prawf gwaed clefyd seliag; roedd hi’n amau bod ganddi’r cyflwr ar ôl sylwi ar batrwm o fod yn sâl wrth fwyta bara a phasta.

“Roedd fy ngwrthgyrff ymhell y tu hwnt i’r ystod arferol felly roedd yn ddangosydd pendant bod y clefyd arnaf,” meddai.

Cymerodd flwyddyn gyfan i anemia a symptomau sy’n ymwneud â’r perfedd setlo, ac i’w chylchred mislif ddychwelyd i’r arfer.

“Fe wnes i dorri glwten allan yn syth ac rydw i wedi bod yn llym iawn yn ei gylch,” meddai.

Er bod ei symptomau wedi diflannu, yn 27 oed cafodd y gwas sifil ddiagnosis o osteopenia, sef cyflwr lle mae dwysedd esgyrn yn is na’r cyfartaledd.

Gall difrod i’r perfedd sy’n gysylltiedig â chlefyd seliag heb ddiagnosis achosi camamsugno maetholion megis calsiwm, sydd eu hangen ar gyfer esgyrn iach.

“Rydw i ar atchwanegiadau calsiwm dyddiol,” meddai.

“Rwy’n cael sganiau Dexa yn rheolaidd, bob dwy i dair blynedd i fonitro dwysedd fy esgyrn.

“Fe ges i ychydig o welliant yn fy sgan diwethaf felly mae hynny’n dda.

“Cyn fy niagnosis yn bendant roeddwn i angen llawer mwy o amser adfer ar ôl ymdrechu’n gorfforol.

“Nawr rwy’n eithaf actif, ymunais â champfa yn ddiweddar, rwy’n gwneud ioga a dosbarthiadau gwahanol ac yn gwneud fy ngorau i gadw’n iach.”

Mae hi’n cynghori pawb sy’n profi symptomau clefyd seliag heb ddiagnosis i ofyn i’w meddyg teulu ymchwilio iddyn nhw.

“Ymddiried yn eich perfedd!” yw ei chyngor.

“Rydych chi’n gwybod pan fydd rhywbeth o’i le.

“Dim ond prawf gwaed ydyw felly hyd yn oed os yw’n ei ddiystyru mae’n werth ei archwilio.”