Mae anrhydedd Guto Harri, cyn-Bennaeth Cyfathrebu Boris Johnson, wedi cael ei israddio yn dilyn ffrae yr wythnos ddiwethaf, yn ôl ffynhonnell sydd wedi’i ddyfynnu gan The Times.

Yn ôl yr erthygl, cafodd ei anrhydedd ei israddio i CBE yn dilyn sylwadau wnaeth y Cymro Cymraeg am ffrae fawr rhwng Johnson a’r Brenin Charles tros y polisi dadleuol i ddanfon ffoaduriaid i Rwanda.

Dywedodd Guto Harri fod Johnson “wedi sefyll i fyny” i Charles, oedd yn Dywysog Cymru ar y pryd ac a oedd wedi beirniadu’r polisi fel un “ofnadwy”.

Ymhlith yr honiadau arall wnaeth e oedd fod Johnson wedi ystyried anfon fideo at Sunak yn ei ddyddiau olaf yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei alw’n enwau sarhaus.

Daw’r honiadau fel rhan o erthygl sy’n dweud fod disgwyl i Michael Gove gael ei urddo’n farchog cyn i Boris Johnson dynnu’r cynnig yn ôl gan gyhuddo Gove o’i atal e rhag dychwelyd i Downing Street.

Roedd disgwyl i Gove gael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i’r Llywodraeth Geidwadol ers 2010, ac roedd yn cael ei ystyried yn ffordd o ddirwyn y ffrae rhwng Gove a Johnson i ben.

Dechrau’r ffrae oedd penderfyniad Gove i herio Johnson am yr arweinyddiaeth ar ôl Brexit yn 2016, ac fe gafodd ei haildanio’n ddiweddar ar ôl i Johnson feio Gove am annog Kemi Badenoch i gefnogi Rishi Sunak yn y ras ddiweddaraf am rôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gan ddirwyn gobeithion Johnson o ddychwelyd i ben.

Mae lle i gredu bod nifer o enwau dadleuol wedi cael eu tynnu oddi ar restr anrhydeddau ymddiswyddiad y cyn-Brif Weinidog, ac fe fydd yn rhaid i’r rhestr derfynol gael sêl bendith pwyllgor cyn cael ei chyhoeddi’n derfynol.

Mae’r rhestr eisoes wedi cael cryn sylw am ei bod hi’n wreiddiol yn cynnwys Stanley Johnson, tad y cyn-Brif Weinidog, a Paul Dacre, cyn-olygydd y Daily Mail oedd eisoes wedi cael ei dynnu o’r rhestr ddrafft.