Mae adroddiadau na fydd William, Tywysog Cymru, yn cael arwisgiad ffurfiol.
Daw hyn wrth i’r papur newydd The Times adrodd y bydd y seremoni i’w goroni’n Frenin Lloegr yn y dyfodol yn wahanol iawn i seremoni ddiweddar ei dad.
Daeth William yn Dywysog Cymru pan wnaeth ei dad Charles esgyn i’r orsedd yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, gyda nifer fawr o bobol yn galw am ddirwyn y teitl Tywysog Cymru i ben bryd hynny.
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y rôl.
“Mae’r rheiny sy’n agos ato’n cyfeirio at ei benderfyniad i beidio â chynnal arwisgiad yn Dywysog Cymru fel arwydd o sut fydd William yn parhau i fynd yn groes i draddodiad fel etifedd yr orsedd,” meddai Royal Nikkhah, golygydd brenhinol y papur newydd.
Yn ôl y papur, mae William yn awyddus i gael seremoni sy’n “edrych ac yn teimlo’n wahanol” i seremoni ei dad, ac sy’n “gyfoes” a “pherthnasol”.
Yn ôl ffynhonnell arall, mae’r diffyg arwisgiad yn golygu bod pwyslais William ar gymunedau yn hytrach na “thorri rhuban”.
“Gallwch chi weld hynny yn y ffordd mae cael arwisgiad oddi ar y bwrdd, a’i feddyliau ynghylch gadael gwaddol mewn cymunedau yn hytrach na jyst mynd i mewn i dorri rhuban,” meddai.