Mae Arloesi Gwynedd Wledig, prosiect sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, wedi gwneud canfyddiadau cyffrous ynglŷn ag ansawdd gwlân a chig yn ystod cynllun peilot arloesol sy’n canolbwyntio ar fridio defaid newydd amlbwrpas.

Nod ‘Defaid Amlbwrpas’ oedd gwella ansawdd y gwlân Cymreig sy’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd yng Ngwynedd, heb gyfaddawdu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen neu ddafad.

Cafodd y nod hwn ei gyflawni, wrth i ddata brofi bod defaid amlbwrpas yn amryddawn ac yn cynhyrchu carcasau a gwlân o ansawdd uchel.

Ddwy flynedd yn ôl, cafodd hedyn o hwrdd Merino o’r enw Charlie ei fewnforio o Awstralia a’i ddefnyddio i ffrwythlonni 35 o ddefaid Romney yn artiffisial ar ddwy fferm yng Ngwynedd.

Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, profodd yr ŵyn amlbwrpas eu bod nhw’n gallu ffynnu yn amgylchedd y Deyrnas Unedig heb unrhyw bryderon am eu lles.

Daeth i’r amlwg hefyd fod modd rheoli’r brîd yn yr un modd â bridiau brodorol.

Monitro

Cafodd cynnydd yr ŵyn ei fonitro dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar gyfraddau twf, nodweddion a samplau gwlân, ac ansawdd cig.

Y canfyddiad mwyaf oedd y gwelliant yn nodweddion gwlân yr oen amlbwrpas o gymharu â’r grŵp rheoli.

Cafodd ŵyn o’r ddwy fferm eu cneifio cyn mynd i’r lladd-dy, a chafodd samplau ochr o wlân eu cymryd a’u hanfon i’r Awdurdod Profi Gwlân yng Nghaernarfon.

Cyflawnodd y MerinoRomneys gyfartaledd o 22.1 Micron, o’i gymharu â chyfartaledd o 30.3 Micron o’r grŵp rheoli.

Gorau po isaf yw’r micron gan ei fod yn golygu bod y gwlân yn fanach ac yn feddalach felly mae modd ei ddefnyddio i greu cynnyrch pen uchel, gan gynyddu ei werth.

Roedd hyn yn arbennig o drawiadol ac yn llawer gwell na disgwyliadau’r ffermwyr, gan ystyried mai dim ond ŵyn croes cyntaf oedden nhw.

Darganfyddiad diddorol arall oedd fod pwysau cyfartalog yr ŵyn amlbwrpas yn uwch nag ŵyn y grwpiau rheoli trwy gydol y prosiect.

Roedd y pwysau lladd 12% yn drymach na phwysau’r grŵp rheoli, ond doedd sgôr y carcas ddim cystal.

Cyflawnodd yr ŵyn amlbwrpas radd carcas o O3L (gweddol, braster optimwm) tra bod tri o’r pedwar oen o’r grŵp rheoli wedi cyflawni R3L ychydig yn well (da, braster optimwm).

Ond cadarnhaodd adborth gan y ffermwyr fod y carcasau Merino-Romney wedi creu argraff, a bod y cig yn flasus.

Y cynllun cyntaf yng Nghymru

Hwn oedd y cynllun cyntaf yng Nghymru i wella safon gwlân heb gyfaddawdu ar ansawdd cig.

Mae wedi dod ag incwm ychwanegol i ffermwyr.

“Y cynllun hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru wrth i ni geisio bridio ŵyn gyda safon gwlân llawer gwell heb gyfaddawdu ar ansawdd eu cig,” meddai Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Prosiectau Arloesi Gwynedd Wledig.

“Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant, a gellir rhannu’r canfyddiadau gyda ffermwyr ar draws y wlad.

“Dangoswyd bod y gwlân wedi ychwanegu gwerth, a bod modd creu ffynhonnell ychwanegol o incwm.

“Mae hyn yn hollbwysig gan fod llawer yn y diwydiant yn wynebu ansicrwydd yn y dyfodol.”

Roedd dwy fferm yng Ngwynedd yn rhan o’r cynllun ‘Defaid Aml-bwrpas’ – sef Fferm Blaen Cwm Arwel Jones yng Nghorwen, a Fferm Parlla Isaf John a Gillian Williams yn Nhywyn.

‘Prosiect cyffrous iawn’

Mae’r teulu Williams yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun, ac mae ganddyn nhw gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n brosiect cyffrous iawn, ac mae’n wych ein bod wedi bod yn rhan ohono,” meddai’r teulu.

“Rydym yn awyddus i gynyddu’r ddiadell o 17 o famogiaid i 300 yn y dyfodol.

“Y prawf nesaf fydd gweld sut mae’r mamogiaid yn ymdopi yn ystod bridio.

“O ystyried bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn, rydym yn obeithiol y gallwn fynd ymlaen i gynhyrchu brîd llawer mwy defnyddiol o ran gwlân a chig, ac o ganlyniad, mae siawns i dderbyn llawer mwy o fuddion.”

Bydd esboniad manylach o’r canfyddiadau hyn yn cael ei gyflwyno yn nigwyddiad ‘Ychwanegu Gwerth at Wlân’ ar Fferm Parlla Isaf, Tywyn ar Fehefin 8, a hwnnw’n cael ei drefnu gan Gwnaed â Gwlân, sef prosiect arall Menter Môn.

Yn y digwyddiad, bydd cyfle i holi’r ffermwyr am eu profiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i rwydweithio dros ginio, gyda chyflwyniadau ac arddangosiadau byw gan ‘The Welsh Woolshed’.

‘Llwyddiant ysgubol’

“Rydym wrth ein bodd bod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol,” meddai Elen Parry, rheolwr y prosiect.

“Bydd yn golygu y gall ffermwyr Cymru gynhyrchu ŵyn o ansawdd llawer uwch o wlân, a fydd yn ei dro yn cynyddu nifer y defnyddiau terfynol ar gyfer y gwlân, gan gynyddu’r galw a’r pris gobeithio.

“Prif nod hyn fydd cynyddu’r pris mae ffermwyr yn ei gael am eu gwlân.

“Mae’n gyfnod pryderus i’r diwydiant gwlân yng Nghymru, a dyna hanfod ein prosiect Gwnaed â Gwlân.

“Wrth ddatblygu cynlluniau fel hyn gyda bridio defaid amryddawn, mae’n mynd i alluogi’r ymchwil perthnasol i gael ei wneud a sicrhau dyfodol i’r diwydiant pwysig hwn yng Nghymru heb beryglu’r diwydiant cig sydd eisoes mor llwyddiannus yma.”

Bridio defaid amlbwrpas am y tro cyntaf yng Nghymru er mwyn codi gwerth gwlân

Nod ‘Defaid Amlbwrpas’ yw gwella ansawdd gwlân Cymreig sy’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd Gwynedd heb amharu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen