Bydd defaid amlbwrpas yn cael eu bridio am y tro cyntaf yng Nghymru, fel rhan o gynllun peilot i geisio ychwanegu gwerth i wlân y wlad.
Nod ‘Defaid Amlbwrpas’, sy’n brosiect gan Menter Môn, yw gwella ansawdd gwlân Cymreig sy’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd Gwynedd, heb amharu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen.
Cafodd had maharen Merino o’r enw Charlie ei fewnforio o Awstralia y llynedd, a chafodd ei ddefnyddio i ffrwythloni 60 o ddefaid Romney yn artiffisial ar ddwy fferm yn Ngwynedd.
Mae’r ŵyn newydd wedi cael eu geni dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r tîm wrthi’n monitro cyfraddau tyfu, nodweddion a samplau gwlân yr ŵyn.
Byddan nhw’n monitro’r un nodweddion mewn grwpiau o ddefaid ac ŵyn Mynydd Cymreig er mwyn cymharu cynnydd y brîd amlbwrpas a’r brîd brodorol.
Fferm Arwel Jones, Blaen Cwm yng Nghorwen, a fferm John a Gillian Williams, Parlla Isaf yn Nhywyn, sy’n rhan o’r cynllun.
“Mae’n gynllun cyffrous iawn, ac mae’n braf iawn bod yn rhan ohono,” meddai John a Gillian Williams.
“Os bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus, gallwn wedyn sicrhau fod Cymru yn mynd ati i gynhyrchu brîd sydd llawer iawn mwy defnyddiol yn nhermau gwlân a chig, ac o ganlyniad, mae yna siawns i’r diwydiant dderbyn llawer iawn mwy o fuddion.”
‘Dyfodol ansicr’
Mae’r cynllun wedi deillio o adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Arloesi Gwynedd Wledig, sy’n brosiect gan Fenter Môn, yn 2019 wrth iddi ddod i’r amlwg fod prisiau gwlân yn isel iawn.
Daeth i’r casgliad fod crefftwyr yn gorfod mewnforio cnu a gwlân o safon uchel gan nad oedden nhw ar gael yn lleol.
Does dim bridiau defaid amlbwrpas yng Nghymru, felly bydd y prosiect yma’n caniatáu i ffermwyr arbrofi a gweld sut mae ychwanegu gwerth i wlân Cymreig.
Dywed Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Cynlluniau Arloesi Gwynedd Wledig sy’n arwain y cynllun, mai hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.
“Os fydd y cynllun yn llwyddiant, bydd modd rhannu’r canfyddiadau â ffermwyr ar draws y wlad, a dangos ei bod yn bosib ychwanegu gwerth at eu gwlân, a chreu ffynhonnell ychwanegol o incwm iddynt,” meddai.
“Mae hyn yn hollbwysig wrth i nifer ohonynt wynebu dyfodol ansicr.”
‘Cynyddu’r pris i ffermwyr’
Mae gan Fenter Môn brosiect arall sy’n ceisio gwireddu potensial gwlân Cymru hefyd, sef Gwnaed â Gwlân,
Dywed Elen Parry, rheolwr y prosiect, eu bod nhw’n gobeithio y bydd prosiect Defaid Amlbwrpas yn “llwyddiant aruthrol”.
“Bydd yn golygu fod ffermwyr Cymreig yn gallu cynhyrchu ŵyn sydd â safon gwlân llawer iawn uwch, bydd hynny yn ei dro yn cynyddu nifer y defnyddiau terfynol posib y gellir ei gynhyrchu o wlân, gan obeithio y bydd hefyd yn cynyddu’r galw a’r pris,” meddai.
“Prif nod hyn fydd i gynyddu’r pris y mae’r ffermwyr yn ei gael am eu gwlân. Mae’n gyfnod eithaf pryderus i’r diwydiant gwlân yng Nghymru, a dyna beth yw sail ein prosiect Gwnaed â Gwlân.
“Drwy ddatblygu cynlluniau fel yr un yma efo bridio defaid amlbwrpas, mae’n mynd i alluogi fod yr ymchwil berthnasol yn cael ei wneud a bod yn sicrhau dyfodol i’r diwydiant pwysig yma yng Nghymru heb amharu ar y diwydiant cig sydd mor llwyddiannus yma yn barod.”