Mae siop lyfrau Gymraeg y Bala yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant y mis yma.

Cafodd cwmni Awen Meirion ei sefydlu gan 11 o gyfarwyddwyr yn 1971, bedair blynedd ar ôl i siop Gymraeg gyntaf Cymru, Siop y Pethe, agor yn Aberystwyth.

Gwyn Siôn Ifan

Agorodd y siop ei hun flwyddyn yn ddiweddarach, dan arweiniad gwirfoddolwyr am y flwyddyn cyn i Alan Llwyd ddod yn rheolwr cyntaf arni, gan werthu llyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymru, cardiau, crefftau a cherddoriaeth.

Mae’r busnes yn “lwcus iawn” i fod mewn sefyllfa i ddathlu’r hanner cant, meddai Gwyn Siôn Ifan, rheolwr gyfarwyddwr Awen Meirion, ond mae hi dal yn “her” mynd am y cerrig milltir nesaf.

“Mae hi’n grêt, wrth gwrs, ein bod ni wedi cyrraedd hanner cant ond mae hi dal yn her i fynd am yr hanner cant ac un, hanner cant a dau…” meddai Gwyn Siôn Ifan, sy’n rheolwr gyfarwyddwr ar y siop ers 1990, wrth golwg360.

“Dydy’r rhifau yna ddim yn golygu gymaint â hynny, cynnal y siop sy’n bwysig.

“Rydyn ni’n lwcus iawn ein bod ni mewn sefyllfa i ddathlu’r hanner cant oed.

“Roedden ni’n poeni’n ofnadwy dros gyfnod y Covid, beth fyddai parhad Awen Meirion, be ydy’r cam nesaf, ond ddaethon ni drwyddi a thrwyddi yn iach ac rydyn ni mewn sefyllfa i fynd i’r Eisteddfod unwaith eto.

“Gobeithio y byddan ni’n parhau i allu mynychu pethau fel yr Eisteddfod.”

Dathliadau

Dros y blynyddoedd, mae Awen Meirion wedi bod yn croesawu awduron a chantorion, gan gynnwys Bryn Fôn, Manon Steffan Ros, Dewi Prysor a Dai Jones Llanilar, i’r siop i gynnal sesiynau arwyddo.

Lansiad llyfr Seimon Jones, Straeon Cwm Cynllwyd, yn Awen Meirion yn 1989, gyda Myrddin ap Dafydd a rheolwraig y siop ar y pryd, Carys Edwards

Does yna ddim byd pendant wedi’i drefnu er mwyn dathlu’r hanner cant eto, ond mae Gwyn Siôn Ifan wedi bod yn trafod efo cerddorion ac awduron a bydd yna ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros y flwyddyn.

“Dyddiau yma, dydyn ni ddim yn gwneud cymaint o sesiynau arwyddo, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi amharu peth ar hynna ond rydyn ni rŵan yn trio datblygu sesiynau lansio ac arwyddo’n ôl,” esbonia.

“Gan ein bod ni yn y flwyddyn yma’n dathlu hanner can mlynedd, mae o’n rheswm da dros ailgychwyn pethau unwaith eto.

“Rhoi adloniant stepen drws tu allan i’r siop, yn dibynnu ar y tywydd, ambell gyngerdd, a gobeithio trefnu ymryson yn nes at y gaeaf.

Manon Steffan Ros yn arwyddo llyfrau yn Awen Meirion llynedd

“Mewn gwirionedd, rhoi adloniant sy’n adlewyrchu be rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau pellach.”

‘Mewn dwylo sâff’

Mae Awen Meirion newydd gyflogi aelod newydd o staff, sy’n golygu bod yna dri yn gweithio yno bellach.

“Mae hynny’n newyddion da oherwydd mae’n golygu ein bod ni mewn sefyllfa i allu cyflogi’n ychwanegol, ac felly gael syniadau newydd a rhannu syniadau ynghylch sut i yrru’r siop yn ei blaen a chreu mwy o amrywiaeth gobeithio,” meddai Gwyn Siôn Ifan wrth edrych tua’r dyfodol.

“Mae medru cyflogi’r tri ohonom ni yn gam pwysig ymlaen i ni er mwyn sicrhau dyfodol y cwmni pan fydda i wedi ymddeol.

“Bydd y siop mewn dwylo saff, yn sicr o hynny, yn enwedig efo’r cydweithwyr rŵan.

“Mae dyfodol Awen Meirion yn sicr.”

  • Mwy am Awen Meirion yn dathlu’r hanner cant yn golwg yn fuan.