Mae’r Eisteddfod Genedlaethol a Maes B ymhlith dros gant o wyliau sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais rhywiol.
Heddiw (dydd Llun, Mai 16), mae 103 o wyliau dros y Deyrnas Unedig wedi arwyddo ymgyrch Safer Spaces at Festivals y Gymdeithas Gwyliau Annibynnol.
Cafodd yr ymgyrch ei hail-lansio heddiw, ac mae trefnwyr y gwyliau yn ymrwymo i ddarparu awyrgylch ddiogel i gynulleidfaoedd, perfformwyr a gweithluoedd, yn unol â chanllawiau gan Rape Crisis Cymru a Lloegr, Good Night Out, Safe Gigs for Women, Girls Against, a Menywod y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r siarter yn dweud y bydd pob honiad o aflonyddu, cam-drin a thrais rhywiol yn cael eu cymryd o ddifrif, y bydd gweithredu, ac y byddan nhw’n cael eu hymchwilio.
Ynghyd â hynny, mae’r gwyliau yn ymrwymo i gael prosesau clir er mwyn adrodd am ddigwyddiadau.
Bydd y gwyliau yn pwysleisio egwyddor cysyniad, gan ddiffinio cysyniad “fel rhywun yn ymgymryd â gweithgaredd rywiol os ydyn nhw’n cytuno drwy ddewis, a bod ganddyn nhw’r rhyddid a’r capasiti i wneud y dewis hwnnw”, ac yn pwysleisio y gall y cysyniad gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.
Yn ôl arolwg gan y Gymdeithasol Gwyliau Annibynnol ar ôl tymor gwyliau 2019, dywedodd 98.7% o’r mynychwyr na wnaethon nhw ddioddef cam-drin nac aflonyddu rhywiol mewn unrhyw ŵyl y flwyddyn honno.
Fodd bynnag, yn ôl Rape Crisis Cymru a Lloegr, dydy pump ym mhob chwe menyw, na phedwar ym mhob pum dyn, sy’n cael eu treisio ddim yn dweud wrth yr heddlu.
‘Dal yn broblem’
Dywed Phoebe Rodwell, Cydlynydd Aelodaeth a Gweithredoedd y Gymdeithas Gwyliau Annibynnol, fod yr ymgyrch wedi cael “effaith gadarnhaol dros wyliau i wylwyr cerddoriaeth a staff gwyliau fel ei gilydd”.
“Mae gwyliau yn feicrocosm o gymdeithas ac mae trais rhywiol yn broblem sy’n parhau yn ein cymdeithas,” meddai.
“Mae ein dealltwriaeth ac ein hagwedd tuag at fynd i’r afael â’r mater yn esblygu drwy’r amser.
“Dyna pam ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n adnewyddu’r ymgyrch Safer Spaces yn 2022 gyda’r arferion, negeseuon ac adnoddau diweddaraf, er mwyn atal trais rhwyiol a hybu agwedd sy’n canolbwyntio ar y goroeswr, gan helpu trefnwyr gwyliau i gyflawni eu dyletswydd o ofal mewn digwyddiadau.”
‘Agwedd ragweithiol’
Ychwanega swyddog y wasg a chyfathrebu Rape Crisis Cymru a Lloegr bod y siarter yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth arbenigol i oroeswyr.
“Mae pobol sy’n mynd i wyliau yn haeddu gwybod y bydd rhywun yn gwrando ac yn eu credu os ydyn nhw’n adrodd am gam-drin rhywiol, a bod y rhai sy’n gweithio yno â’r gallu i ymdopi â phob adroddiad gyda gwybodaeth ac empathi,” meddai Kelly Bennaton.
“Maen nhw’n haeddu gwybod fod gwyliau’n cymryd agwedd ragweithiol i atal cam-drin rhywiol, ac na fydd ymddygiad camdriniol yn cael ei oddef.
“Rydyn ni’n falch o fod wedi gweithio â’r Gymdeithas Gwyliau Annibynnol i ddatblygu’r siarter hwn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y diwydiant gwyliau ehangach yn dilyn yr esiampl.”