Cafodd Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 eu dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Dinbych heno (nos Lun, Mai 16).

Y gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon yw cynllunydd y Goron a’r saer Rhodri Owen o Ysbyty Ifan yw gwneuthurwr y Gadair.

Ar ôl gorfod gohirio’r gwaith am ddwy flynedd, roedd plethu’r ardal leol a dathliadau canmlwyddiant yr Urdd o fewn y darnau yn bwysig iawn iddyn nhw.

“Gan ei bod hi’n ben-blwydd yr Urdd yn 100 oed eleni, wnes i ail-ddylunio’r goron oedd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2020 er mwyn adlewyrchu hynny,” meddai’r dylunydd a gwneuthurwr nodedig Ann Catrin.

Dyma’r wythfed Coron iddi ei dylunio yn ystod ei gyrfa, a chafodd ei hysbrydoli gan dirlun amaethyddol Dinbych a’r cyffiniau ac offer o fyd ffermio.

“Rwy’n ferch fferm ac roedd y peiriant torri gwair ‘Bamford Major’ yn ysbrydoliaeth,” meddai.

“Dw i wedi defnyddio deunyddiau cyferbyniol sy’n creu drama yn y goron – copr ac arian sterling yw’r prif ddeunyddiau, ac mae’r cap melfed a sidan coch hyfryd yn ategu at y ddrama.

“Mae’n Goron fawreddog a dwi’n methu aros i’w gweld hi ar ben yr enillydd o fewn y mis.”

Y Gadair

Rhodri Owen o Ysbyty Ifan yw dylunydd y Gadair.

Roedd cael creu Cadair ar gyfer Eisteddfod canmlwyddiant y mudiad ieuenctid yn bwysig iawn iddo, yn ogystal ag adlewyrchu ardal yr Eisteddfod a’i phobol ifanc.

“Bu i gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Urdd chwarae rhan fawr wrth feithrin fy nghreadigrwydd fel plentyn, ac yn ddi-os mae’r un peth yn wir am filoedd o blant eraill ar draws y wlad,” meddai’r saer.

“Ro’n i am gofnodi canmlwyddiant yr Urdd mewn ffordd gynnil oedd yn berthnasol i’r ardal, felly mae’r marciau ar y gadair yn rhifo 100, ac yn sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochor hefyd.

“Mae’r panel gwaelod ar ffurf rhai o fryniau Clwyd a’r marciau lliwgar ar y panel mwyaf yn dynodi ieuenctid bywiog yr ardal ar siapiau llif afon.

“Dwi’n gweld y lliwiau yma yn rhedeg drwy’r ffawydd fel yr Afon Clwyd yn tarddu o Hiraethog cyn rhedeg o un pen o’r Sir i’r llall.”

Yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru’n noddi’r Gadair

Noddwyr y Gadair yw Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Fel yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru, roedd dathlu twf a newydd-deb cenedlaethau newydd o Gymry yn rhan greiddiol o’r briff.

“Ar ddathliad canmlwyddiant yr Urdd, pleser yw hi i gael noddi cadair Eisteddfod Sir Ddinbych eleni,” meddai Siân Alwen, Dirprwy Bennaeth yr ysgol.

“Ein nod drwy gydweithio efo Rhodri oedd cyfleu bwrlwm yr ieuenctid yn yr ardal a’r llif o Gymreictod sydd i’w weld o un pen i’r dyffryn i’r glannau.

“Roedd lliw yn elfen bwysig wrth greu er mwyn dynodi ffresni ac irder ein pobol ifanc.

“Fel yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru mae dathlu twf a newydd-deb cenedlaethau newydd o Gymry yn parhau i ddod a gwefr ac yn cadarnhau ein pwrpas a’n gweledigaeth fel ysgol.

Cymdeithas Gymraeg Dinbych yn noddi’r Goron

Coron Eisteddfod yr Urdd 2022
Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Noddwyr y Goron yw Cymdeithas Gymraeg Dinbych, a “pleser pur” oedd cydweithio gydag Ann Catrin er mwyn gwireddu eu gweledigaeth, meddai’r Ysgrifennydd Dilwyn Jones.

“Yr oedd Cymdeithas Gymraeg Dinbych yn awyddus iawn i noddi’r Goron ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ond y mae Covid wedi gwneud i ni aros yn hir cyn cael llawn wireddu’r rhodd,” meddai.

“Mae Ann Catrin Evans wedi bod yn ardderchog o’r cychwyn gan ddod atom a rhoi cyfle i ni fynegi ein syniadau ond yr ydym hefyd wedi elwa llawer o’i phrofiad a’i gallu a’i harweiniad doeth a gwybodus.

“Bu cydweithio hefo Ann Catrin yn bleser pur ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y Goron ar ben y llenor buddugol… gobeithio!”

Her i’r crefftwyr

“Mae’r newid i’r dyddiad wedi bod yn rhan o’r her i’n crefftwyr eleni, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Ann Catrin a Rhodri Owen am fynd ati i greu gwobrau mor drawiadol,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Mae pobol o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r Eisteddfod eleni ac i fwynhau’r hyn sydd gan yr ŵyl a’r ardal arbennig hon i’w chynnig. Gobeithio y bydd teilyngdod, fel bod y ddwy wobr yn cael eu mwynhau mewn cartrefi am flynyddoedd i ddod.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 yn cael ei chynnal ar gyrion tref Dinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4, ac mae mynediad i’r ŵyl am ddim eleni.

Mi fydd Seremoni’r Cadeirio ar ddydd Iau, Mehefin 2, a chaiff y Seremoni ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.

Grŵp Cynefin sy’n noddi Seremoni’r Coroni ar ddydd Gwener, Mehefin 3.