Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid gwerth £13.5m, tair gwaith y cyllid blaenorol, wrth iddyn nhw ymrwymo i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol er mwyn sicrhau nad yw plant ar eu colled oherwydd diffyg arian.

Wrth gyhoeddi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol, mae’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles wedi datgelu y bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf.

Bydd hyn yn gwneud mynediad at addysg gerddorol yn decach ac yn fwy cyson ledled Cymru, gyda phwyslais arbennig ar ddysgwyr o aelwydydd incwm isel a’r rheiny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a bydd cefnogaeth ar gael i blant a phobol ifanc gael parhau â gwersi cerddorol, gan annog dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a’r sawl sy’n cael eu tangynrychioli i ymuno ag ensembles cerddorol.

Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o raglenni gwaith allweddol, megis:

  • Adolygu telerau ac amodau tiwtoriaid cerdd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael trin yn deg a’u cydnabod yn briodol
  • Rhaglen ‘Profiadau Cyntaf’ i gynnig o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerddorol i blant mewn ysgolion cynradd gan ymarferwyr proffesiynol
  • Menter ‘Creu Cerddoriaeth Gydag Eraill’, gan gynnwys cyfleoedd i blant a phobol ifanc mewn ysgolion uwchradd i gael profiad o’r diwydiant drwy gydweithio â cherddorion a’r diwydiannau creadigol
  • Llyfrgell offerynnau a chyfarpar genedlaethol newydd i gefnogi mynediad at fanc o adnoddau i’w rhannu ledled Cymru

Bydd y rhaglenni hyn yn cychwyn ym mis Medi, gan gefnogi ysgolion a lleoliadau addysg i roi cyfleoedd i blant a phobol ifanc tair i 16 oed ganu a chreu cerddoriaeth mewn ysgolion a chymunedau.

Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn gweithredu fel canolfan, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cydlynu rhaglenni’r Gwasanaeth Cerddoriaeth ar y cyd ag ystod eang o sefydliadau.

Bydd hyn yn helpu ysgolion a lleoliadau addysg wrth iddyn nhw gyflwyno Cwricwlwm Cymru a chreu mwy o gyfleoedd amrywiol i blant a phobol ifanc gael profiadau cerddorol y tu allan i’r dosbarth.

Aeth y prif weinidog Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles i Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff yn Abertawe i weld plant ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn sesiwn chwarae gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Abertawe.

‘Ymrwymiad pwysig’

“Mae sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad pwysig yn ein Rhaglen Lywodraethu, a dw i wrth fy modd ein bod ni’n cyflawni’r addewid hwn,” meddai Mark Drakeford.

“Roedd dysgu chwarae offeryn yn elfen ffurfiannol yn fy magwraeth i, a ddylai diffyg arian ddim bod yn rhwystr i unrhyw berson ifanc sydd am ddysgu chwarae cerddoriaeth.

“Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru bod gyda ni draddodiad cryf o ensembles ar lefel ysgol, sir a chenedlaethol, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobol ifanc yn gallu chwarae rhan lawn yn y rhain.

“Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion ac o fewn y gymuned i feithrin ein doniau cerddorol ifanc.”

‘Pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn’

“Ein gweledigaeth yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn,” meddai Jeremy Miles.

“Bydd y cynllun rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw, ynghyd â’r cyllid cysylltiedig, yn helpu i wireddu’r weledigaeth honno.

“Am yn rhy hir, mae’r cyfle i ddysgu offeryn a datblygu sgiliau cerddorol wedi’i neilltuo i’r ychydig deuluoedd a gofalwyr hynny sy’n gallu fforddio gwersi.

“Dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i gael gwersi cerddoriaeth, a dyna pam ein bod ni’n gwneud y buddsoddiad sylweddol hwn i ddarparu amrywiol weithgareddau i’n plant a’n pobol ifanc ledled Cymru, fel y cân nhw ddysgu am y llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth a chael profiad ohono.

“Bydd datblygu’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn sicrhau ein bod ni’n meithrin ein cenhedlaeth nesaf ac yn parhau i greu talent newydd yng Nghymru y gallwn ei arddangos gerbron y byd.”

‘Cydweithio’n hollbwysig’

“Mae cael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn i blant ledled Cymru yn destun balchder inni,” meddai Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cyngor Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn methu â fforddio offeryn cerdd, a bydd y cyllid hwn yn mynd ffordd bell i agor drysau i blant ledled Cymru, gan roi’r cyfle iddyn nhw ddysgu chwarae offeryn.

“Mae chwarae offeryn a darllen cerddoriaeth yn sgil bwysig iawn i blentyn, ac mae cerddoriaeth yn dod â llawenydd aruthrol iddyn nhw.

“Mae awdurdodau lleol yn dweud y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i blant ledled Cymru gael gafael ar offerynnau, ac y bydd y cynllun hwn yn datblygu llawer o gerddorion talentog i’r dyfodol, ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cerddorol.”